Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Peidiwch Byth â Rhoi'r Gorau i Ddysgu: Cyrsiau Rhan-amser ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n dathlu Wythnos Addysg Oedolion (18-24 Medi) drwy dynnu sylw at yr ystod eang o gyrsiau rhan-amser sydd ar gael ledled ei gampysau yng ngogledd Cymru.

Mae'r cyrsiau'n hyblyg, ac yn aml yn cael eu darparu dros ddwy neu dair awr yr wythnos yn unig.

Mae cyrsiau rhan-amser a gynigir yn cynnwys:

  • Iaith Arwyddion Prydain
  • Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol
  • Creu Tecstilau Creadigol drwy Ailgylchu
  • Sgiliau Ysgrifennu Creadigol
  • Lluniadu a Phaentio
  • Gweinyddu Meddygol
  • Cyflwyniad i fod yn Gynorthwyydd Addysgu
  • Ffotograffiaeth a Photoshop
  • Paentio Lluniau Dyfrlliw
  • Sgiliau Sylfaenol gan gynnwys Darllen, Ysgrifennu a Mathemateg
  • Dysgu Teuluol
  • Cadw Cyfrifon a Chyfrifyddu⁠

Esboniodd Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor a Phennaeth Strategol Addysg Oedolion a Dysgu yn y Gymuned,

“Rydym yn falch o allu cynnig amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser a fydd yn helpu i wella hyder a lles pobl ac yn eu cefnogi i newid gyrfaoedd, i wella eu sgiliau ac i symud ymlaen yn eu gwaith.

“Mae llawer o fanteision i addysg oedolion – gall newid bywydau mewn ffordd gadarnhaol a galluogi mwy o oedolion i symud ymlaen yn hyderus ac adeiladu gwell dyfodol gwell iddyn nhw eu hunain. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried cwrs rhan-amser neu a hoffai drafod y cyfleoedd amrywiol sydd gennym i gysylltu â’n tîm profiadol fel y gallwn eich helpu i ddod o hyd i gwrs addas.”

Mae ein prosbectws ar-lein ar gyfer cyrsiau rhan-amser ar gael yma.