Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llwyddiant cenedlaethol i fyfyrwyr Dolgellau yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod dau o fyfyrwyr ein cwrs Sgiliau Bywyd a Gwaith yn Nolgellau, sef Kamar ElHoziel a Damien Slaney yn ddiweddar wedi ennill gwobrau aur ac arian yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru a chynnig cyfle i fyfyrwyr a phrentisiaid herio, meincnodi a datblygu eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.

Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru a’u rhedeg gan rwydwaith o golegau a darparwyr, mae'n cynnwys cyfres o gystadlaethau lleol sy’n cydredeg â chystadlaethau WorldSkills ac anghenion economi Cymru.

Dyfarnwyd y wobr Aur i Kamar ElHoziel o Borthmadog yn y categori Sgiliau Cynhwysol, Arlwyo, sef y brif wobr genedlaethol.

Dyfarnwyd y wobr arian i Damien Slaney o Drawsfynydd yn y categori Sgiliau Cynhwysol, Gwasanaethau Bwyty.

Dywedodd Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor.

“Mae ein hadrannau Sgiliau Byw’n Annibynnol yn rhan greiddiol o'n darpariaeth ac rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cyfleoedd i'n dysgwyr ar bob lefel. Mae'r cystadlaethau hyn yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau ac rydym yn gwerthfawrogi'r cyfle i gymryd rhan yn Sgiliau Cymru.

Llongyfarchiadau mawr i Kamar a Damien ar eu llwyddiant a diolch o galon i'r holl staff a fu'n eu hyfforddi.”

Dywedodd Morfudd Pughe Richards, darlithydd ar y cwrs Sgiliau Bywyd a Gwaith.

“Rydym yn wirioneddol ymfalchïo yn llwyddiant Kamar a Damien. Mae’r ddau wedi gweithio’n eithriadol o galed er mwyn cyrraedd y pwynt hwn. Mae Kamar yn fywiog a

egni, ac mae hi hefyd yn berson creadigol iawn gyda nifer o ddiddordebau gwahanol. Mae hi wastad yn gweithio’n galed, ac mae ei hymroddiad wedi talu ar ei ganfed. Diolch i ti Kamar am ddangos ein coleg ar ei orau. Rwyt ti’n llysgennad gwirioneddol wych i bopeth sy’n dda am ein coleg ni.”

Ychwanegodd Morfudd –

“Mae Damein wastad yn gweithio’n galed, ac yn gwneud ei orau bob amser. Roedd ei frwdfrydedd at y gystadleuaeth hon yn wych, ac roedd ei waith paratoi yn fanwl iawn. Mae Damien hefyd wedi dangos beth y gallwn ni i gyd ei gyflawni drwy waith caled ac ymroddiad. Diolch i ti Damien, ti wirioneddol yn seren ac mae holl staff a myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn falch iawn o dy lwyddiant."