Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn cyrraedd rhestr 100 Gweithle Mwyaf Cynhwysol

Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth wedi cynnwys Grŵp Llandrillo ar ei rhestr o 100 Gweithle Mwyaf Cynhwysol 2021.

Roedd Grŵp Llandrillo Menai yn safle rhif 88 yng Ngwobrau Blynyddol FREDIE (Fairness, Respect, Equality, Diversity, Inclusion and Engagement).

Meddai Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein cydnabod fel gweithle cynhwysol, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod ein cydweithwyr yn teimlo ein bod yn eu gwerthfawrogi ac yn eu parchu. Mae'r wobr yn brawf o'r gwaith caled rydym yn ei gyflawni fel tîm Grŵp Llandrillo Menai"

Dywedodd Solat Chaudhry, Prif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth:

"Rydw i'n llongyfarch Grŵp Llandrillo Menai ar gyrraedd rhif 88 yn rhestr 100 Gweithle Mwyaf Cynhwysol 2021. Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol ac eto nid yw hynny wedi meddu dim ar waith sefydliadau ac unigolion i hyrwyddo arfer gorau FREDIE.

"Roedd yn rhaid i ni gynnal y gwobrau hyn eleni. Doedd dim modd i ni anwybyddu ymdrech arbennig pawb. Hoffwn longyfarch pawb sy'n gweithio mor galed bob dydd i gynnal y safonau uchel hyn.

"Mae gwaith FREDIE yn golygu y gallwn ni adeiladu gwell cymdeithas, ac mae'r enillwyr yn cynrychioli'r gorau o nifer o sectorau gwahanol - y sector breifat, sector gyhoeddus, byd addysg ac elusennau."

Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu a Strategaeth Cydraddoldeb pum mlynedd Grŵp Llandrillo Menai yn 2019 ac mae'n fframwaith i hyrwyddo a chynnal amgylchedd cynhwysol sy'n cynnig cyfle i bawb gyflawni hyd eithaf eu gallu. Mae'r strategaeth yn gosod ein hamcanion yn glir:

  • Sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol i bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau, unigolion sy'n chwilio am gyfleoedd gwaith a'r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y coleg.
  • Cyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol
  • Egluro ein cyfrifoldebau i bobl a nodi sut byddwn yn eu cyflawni
  • Dangos y cysylltiad rhwng ein hamcanion a'n blaenoriaethau cydraddoldeb ehangach.
  • Cynnig gwybodaeth am ein trefniadau monitro

Yn ystod 2019/20, gwnaeth y Grŵp gwaith sylweddol i unioni cyflawniad ar draws y ddarpariaeth yn seiliedig ar nodweddion a amddiffynnir a pherfformiad y myfyrwyr mwyaf difreintiedig.

Lluniwyd y Rhaglen Llysgenhadon Actif i feithrin arweinwyr y dyfodol drwy hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles a chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. Mae'r rhaglen wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac fe enillodd ein myfyriwr Tirion Thomas, wobr 'Arwr Tawel' Gwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru, a dod yn agos iawn at ennill y wobr drwy Brydain. Mae 45 o ddysgwyr yn rhan o'r Rhaglen Llysgenhadon Actif ar hyn o bryd.

DIWEDD.