Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr ar y brig mewn twrnamaint pêl-droed

Daeth dysgwyr o'r adrannau Sgiliau Byw'n Annibynnol a chyrsiau Cyn-alwedigaethol o bob rhan o’r Grŵp ynghyd i gystadlu mewn twrnamaint newydd ym Mae Colwyn. Bydd yr enillwyr a’r rhai ddaeth yn ail yn mynd ymlaen i’r rowndiau terfynol cenedlaethol yng Nghaerdydd.

Cystadlodd myfyrwyr o gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn Nhwrnamaint Pêl-droed Ability Counts Colegau Cymru ym Mae Colwyn.

Roedd digwyddiad Parc Eirias, a drefnwyd gan Chwaraeon Colegau Cymru gyda chefnogaeth y Grŵp a chyllid gan Chwaraeon Anabledd Cymru, ar gyfer dysgwyr o adrannau Sgiliau Byw'n Annibynnol a dysgwyr cyrsiau Cyn-alwedigaethol.

Daeth 100 o ddysgwyr i gymryd rhan yn y twrnamaint, pedwar tîm i o Goleg Llandrillo, dau dîm o Goleg Menai a dau dîm o Goleg Meirion-Dwyfor a Glynllifon.

Rhannwyd yr wyth tîm yn ddau grŵp, a'r timau'n chwarae pob tîm yn eu grŵp cyn mynd ymlaen i'r cam nesaf.

Tîm o Goleg Meirion-Dwyfor a Glynllifon ddaeth i'r brig ar ôl curo tîm o Goleg Menai yn y rownd derfynol.

Bydd y ddau dîm rŵan yn mynd drwodd i rowndiau terfynol cenedlaethol Ability Counts yng Nghaerdydd.

Dywedodd Ollie Coles, Swyddog Ymgysylltu Rygbi Grŵp Llandrillo Menai ac Undeb Rygbi Cymru, fod y digwyddiad cyntaf yn llwyddiant ysgubol.

Dywedodd: “Rydym yn hynod falch o fod wedi cynnal Twrnamaint Pêl-droed Ability Counts cyntaf Gogledd Cymru mewn cydweithrediad â Cholegau Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru. Daeth 100 o ddysgwyr o adrannau Sgiliau Byw'n Annibynnol a chyrsiau Cyn-alwedigaethol Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Glynllifon i gymryd rhan yn y digwyddiad oedd yn agored i ddysgwyr o bob gallu.

“Rwy’n edrych ymlaen at fynd lawr i Gaerdydd gyda’n timau buddugol o Goleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor / Glynllifon ar gyfer y Twrnamaint Cenedlaethol. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”

Ychwanegodd Rob Baynham, cydlynydd Chwaraeon Colegau Cymru: “Mae pêl-droed Ability Counts yn un o uchafbwyntiau calendr chwaraeon AB ac roedd yn wych gweld llwyddiant digwyddiad cyntaf gogledd Cymru.

"Mae ymgysylltu â dros 100 o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn digwyddiad o’r math hwn yn dyst i ymrwymiad colegau AB i les eu dysgwyr.

"Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, ac i'r tîm buddugol o Goleg Meirion Dwyfor a’r tîm o Goleg Menai a ddaeth yn ail."

Dywedodd Marcus Politis, Uwch Swyddog Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru Chwaraeon Anabledd Cymru: "Roeddem ni wrth ein boddau i gefnogi digwyddiad pêl-droed 'Ability Counts' cyntaf gogledd Cymru. Daeth dros 100 o ddysgwyr o'r adran Sgiliau Byw'n Annibynnol i gymryd rhan yn y digwyddiad.

“Llongyfarchiadau enfawr i Rob Baynham a holl staff Colegau Cymru am sicrhau llwyddiant y digwyddiad cynhwysol hwn. Ein gobaith ydy mai dyma'u un cyntaf o lawer o ddigwyddiadau ac mae'n llwyfan i weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol i gynnig cyfleoedd i ddysgwyr o'r adrannau Sgiliau Byw'n Annibynnol yn y gogledd gymryd rhan mewn gweithgareddau yn rheolaidd.”

Dilynwch y dolenni i weld rhagor o wybodaeth am gyrsiau Sgiliau Byw'n Annibynnol a Cyn-alwedigaethol ⁠yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Gwyliwch uchafbwyntiau twrnamaint 'Ability Counts' Colegau Cymru yma