Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

YMWELIAD GWEINIDOGOL Â CHAMPWS COLEG MENAI YN LLANGEFNI

Dydd Gwener (23 Gorffennaf) ymwelodd Gillian Keegan, y Gweinidog dros Brentisiaethau a Sgiliau a Virginia Crosbie - AS Ynys Môn â Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai ar gampws Coleg Menai yn Llangefni i wybod mwy am y Prentisiaethau gwych a gaiff eu cynnig yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Cafodd y Gweinidog a'r AS eu tywys o amgylch cyfleusterau a gweithdai yr adran Beirianneg yn y Ganolfan STEM a chawsant gyflwyniad byr ar y modd y cyflwynir Prentisiaethau yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Ymunodd dau o brentisiaethau presennol yr adran Beirianneg â hwy, Tomos Eames a Ryan Cain a rhannodd y ddau eu profiadau wrth astudio cwrs Prentisiaeth. Mae Ryan yn Brentis gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Tom wrthi'n gwneud ei brentisiaeth gyda Siemens.

Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:

"Roedd yn anrhydedd cael y cyfle i ddangos ein cyfleusterau, ein dosbarthiadau a'n gweithdai gwych yma ar gampws Coleg Menai yn Llangefni i'r Gweinidog. Roedd yn gyfle i'r Gweinidog Keegan gael cipolwg ar y Prentisiaethau rydym yn eu cynnig yn ogystal â'r gefnogaeth ardderchog mae'r myfyrwyr yn ei gael wrth astudio yng Nghrŵp Llandrillo Menai".

Dywedodd Gillian Keegan, Y Gweinidog dros Brentisiaethau a Sgiliau,

"Mae crwydro i bob rhan o Brydain i wrando a chlywed am brofiadau busnesau a sut maen nhw'n ymdopi gyda'r pandemig a'u cynlluniau adfer yn rhan bwysig o fwy swydd.

Rwy'n falch iawn o weld sut mae diwydiannau twf allweddol ledled Ynys Môn, megis y diwydiannau modurol, morol, adeiladu a sectorau bwyd yn buddsoddi mewn talent newydd drwy gyflogi prentisiaid - ac mae wedi bod yn bleser cyfarfod rhai o'r bobl ifanc yma heddiw.

Hoffwn ddiolch i'r holl fusnesau a sefydliadau a ddaeth i gyfarfod â Virginia a mi heddiw. Mae cysylltiadau wedi'u creu a pherthnasau wedi'u sefydlu a nawr gallwn weithio gyda'n gilydd i alluogi Ynys Môn i ffynnu ymhellach".

Ychwanegodd Virginia Crosbie AS,

“Roedd yn fraint dod â’r Gweinidog Keegan i Goleg Menai. Mae Grŵp Llandrillo Menai yn gwneud cymaint ar Ynys Môn i hyfforddi ac addysgu ein pobl ifanc ac roedd hwn yn gyfle gwych i siarad â rhai o'u prentisiaid. Mae'n hanfodol bwysig bod llywodraeth y DU yn clywed yn uniongyrchol gan bobl Ynys Môn a dyma un ffordd y gallaf wneud i hynny ddigwydd. ”

I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol Brentisiaethau sydd ar gael yng Nghrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.