Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dysgwyr yn defnyddio eu sgiliau busnes gyda Syniadau Mawr Cymru

Cafodd y myfyrwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol eu hysbrydoli gan sesiwn gyda’r artist serameg Liz Williams ac ymweliad ag M-SParc. Mae un dysgwr yn barod i lansio ei fenter ei hun!

Mwynhaodd y myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol daith o amgylch M-SParc yn dilyn sesiwn menter gyda Liz Williams, Model Rôl Syniadau Mawr Cymru.

Cafodd y dysgwyr eu hysbrydoli i feddwl am ddechrau eu busnesau eu hunain yn dilyn y sesiynau, gydag o leiaf un yn cychwyn ar eu hantur entrepreneuraidd eu hunain.

Ymwelodd Liz â champws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau i siarad â dysgwyr ar y Rhaglen Sgiliau Gwaith (Llwybr 4 - Interniaeth â Chymorth) sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd.

Yn wneuthurwr ac yn artist profiadol, dywedodd Liz: “Cefais sesiwn wych gyda’r myfyrwyr, yn trafod sut y gallai syniadau syml arwain at ffynhonnell incwm, neu fusnes.

“Mi roddais ymarfer artistig iddyn nhw roi cynnig arno, gan ddefnyddio darn o gerdyn gwyn ac ychydig o stribedi o bapur wedi'u paentio ar hap, siswrn a glud.

“Cafwyd amrywiaeth wych o gynhyrchion, a gellid eu defnyddio i gyd fel darn artistig, neu ddyluniad i'w atgynhyrchu ar gerdyn cyfarch, ar fag defnydd, yn brint mewn ffrâm, a llawer o eitemau eraill y gellid eu gwerthu. Roedd yn sesiwn bleserus iawn gyda myfyrwyr brwdfrydig a chreadigol.”

Dywedodd Molly, un o’r dysgwyr: “Dysgodd Liz ni sut i ddechrau ein busnes ein hunain yn gwneud celf. Dysgodd hi ni am wybod beth yw gwerth eich celf, sut i wneud celf o'r hyn sydd o'ch cwmpas, sut i feddwl am syniadau celf i'w gwerthu, a gwybod pryd mae rhywbeth yn gweithio a phryd dydy o ddim.

“Dwi'n hoffi darlunio celf ddigidol yn fy amser sbâr, ac roedd cael profiadau fel hyn wedi gwneud i mi sylweddoli efallai y bydda i eisiau dechrau busnes fy hun yn y dyfodol.”

Yn dilyn sesiwn Liz, aeth y myfyrwyr i ymweld â M-SParc yn Gaerwen, lle cawsant daith o amgylch y parc gwyddoniaeth, rhoi cynnig ar feddalwedd realiti rhithwir, a chreu mygiau i fynd adref gyda nhw.

Cawsant gyflwyniad gan Sion Owen o Busnes Cymru am y gefnogaeth a gynigir gan y mudiad - gan gynnwys mentoriaeth, cyrsiau, a'r Grant Cychwyn Busnes i Bobl Ifanc o hyd at £2,000.

Mae Alfie, un o'r dysgwyr a fu yn y sesiwn, bellach yn paratoi i lansio ei fenter ei hun yn gwerthu eitemau wedi'u cynllunio'n arbennig fel mygiau a dis.

Dywedodd Sion: “Mae Alfie yn entrepreneur creadigol sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu mygiau arloesol sydd â eiconau'r diwylliant pop arnynt, sy’n dod yn weladwy pan gânt eu gwresogi. Mae hefyd yn frwd dros gynhyrchu dis 'Dungeons & Dragons' a chasys addurniadol ar eu cyfer.

“Gyda mynediad at arbenigedd busnes Syniadau Mawr Cymru ac offer M-SParc, mae Alfie wedi gallu gwneud y paratoadau ar gyfer lansio a hyrwyddo ei fenter newydd. Mae Busnes Cymru wedi ymrwymo i gefnogi Alfie ar hyd ei daith entrepreneuraidd drwy gyflwyno cysyniadau, strategaethau a sgiliau newydd i’r entrepreneur ifanc.”

Dywedodd Hanna Pugh, Arweinydd Rhaglen Sgiliau ar gyfer Gwaith (Llwybr 4-Interniaeth â Chymorth), fod sesiwn Liz ac ymweliad M-SParc yn “brofiadau gwych i’r dysgwyr”.

Ychwanegodd Hanna: “Rhannodd Liz wybodaeth am sut mae hi’n meddwl am gynnyrch newydd ac yn datblygu ei busnes, sut i osod prisiau cynnyrch, a manteision hunangyflogaeth.

“Roedd yr ymweliad hwn yn gyfle gwych i’r dysgwyr archwilio byd busnes a dysgu gan unigolyn profiadol.

“Cafodd y myfyrwyr amser gwych yn M-SParc. Fe wnaethon nhw dreulio peth amser gyda chwmni sy'n creu realiti rhithwir a chael rhoi cynnig ar rai o'u cynhyrchion. Roedd pawb wedi mwynhau hynny.

“Ar ôl hynny, mi gawson nhw gyfle i ddefnyddio’r peiriant argraffu ar fygiau yn ardal y gwneuthurwr. Roedd hyn yn brofiad gwerthfawr i’r myfyrwyr.”

Trefnwyd y digwyddiadau gan Shoned Owen, Swyddog Menter Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor, ar y cyd â Busnes Cymru. ⁠

Dywedodd Shoned: “Mae wedi bod yn brofiad hyfryd cael cydlynu’r sesiynau hyn ar gyfer Grŵp Llandrillo Menai, a gweld syniadau menter yn trawsnewid i fod yn realiti.

“Fel prif drefnwyr menter y grŵp, mae Karen Aerts a minnau’n cysylltu â chydlynwyr Busnes Cymru i deilwra sesiynau yn unol â’r gofynion.

“Rydym hefyd yn hwyluso cysylltiadau ar gyfer myfyrwyr sy’n ceisio cael cymorth ac arweiniad ychwanegol trwy amrywiol sefydliadau megis Prince's Trust, M-SParc, Môn CF, Hwb Menter, Lafan, FSB, ac eraill. Os oes gennych ymholiad sy’n ymwneud â menter, cysylltwch â ni yn uniongyrchol neu drwy CAMVA."

Mae Busnes Cymru yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu gwybodaeth, arweiniad a chymorth i fusnesau. Ymhlith y cymorth y mae’n ei gynnig mae Syniadau Mawr Cymru, sy’n helpu pobl dan 25 oed sydd am ddechrau eu busnes eu hunain.

  • Perchnogion busnes o bob rhan o Gymru yw Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru. Maent yn cynnal gweithdai sydd wedi’u cynllunio i roi cipolwg ar entrepreneuriaeth. Dylai unrhyw diwtoriaid a hoffai archebu sesiwn gyda Model Rôl Syniadau Mawr Cymru gysylltu â'r swyddogion menter: Shoned Owen - shoned.owen@gllm.ac.uk ar gyfer Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor, neu ⁠k.aerts@gllm.ac.uk ar gyfer Coleg Llandrillo.