Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Marchnad Nadolig Myfyrwyr yn codi arian dros achos da

Mae adran Sgiliau Byw'r Annibynnol Coleg Llandrillo wedi codi £600 dros achosion da dros yr wythnosau diwethaf

Cododd adran Sgiliau Byw'n Annibynnol Coleg Llandrillo dros £300 dros 'Colwyn Gateway Club' yn ystod y farchnad Nadolig.

Mae'r adran wedi cyfrannu dros £600 i elusennau dros yr wythnosau diwethaf. Codwyd £300 tuag at y Lleng Brydeinig Frenhinol drwy wneud a gwerthu pabi ar gyfer Sul y Cofio.

Roedd stondinau'r farchnad Nadolig yn gwerthu torchau Nadolig, cardiau ac addurniadau a wnaed gan y dysgwyr o'r adran Sgiliau Byw'n Annibynnol. Yn ogystal â'r rhain, roedd stondin myfyrwyr cyrsiau Paratoi at Addysg Bellach yn gwerthu llyfrau wedi'u lapio i nodi traddodiad 'Jolabokflod' yng Ngwlad yr Ia o roi llyfrau fel anrhegion Nadolig.

Staff a myfyrwyr o'r adrannau Sgiliau Byw'n Annibynnol oedd ar y stondinau, ac yn ogystal â gwerthu nwyddau, trefnwyd tombola a chystadleuaeth 'Dyfalu enw'r tedi' ganddynt.

Roedd stondin myfyrwyr o'r adran Celfyddydau Creadigol yn gwerthu matiau diod, mygiau, cardiau ac addurniadau, a stondin myfyrwyr o'r adran Adeiladu yn gwerthu bocsys adar ac eitemau eraill a wnaed â llaw.

Cynhaliwyd y farchnad yn y brif dderbynfa yn Llandrillo-yn-Rhos a daeth cannoedd o fyfyrwyr a staff heibio yn ystod y prynhawn i brynu anrhegion Nadolig.

Roedd y diwrnod yn llwyddiannus iawn yn ôl Jane Myatt, Rheolwr Maes Rhaglen Astudiaethau Cyn-alwedigaethol a Sgiliau Byw'n Annibynnol⁠ yng Ngholeg Llandrillo:

Meddai: Mae staff a myfyrwyr o'r adran Sgiliau Byw'n Annibynnol, Coleg Llandrillo wedi trefnu ffair Nadolig llwyddiannus iawn unwaith eto, ac wedi codi dros £300 dros 'Colwyn Gateway Club'.

Da iawn chi a diolch i bawb a ddaeth i'n gweld am eu cyfraniad at lwyddiant y farchnad Nadolig."

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Sgiliau Byw'n Annibynnol yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.