Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cannoedd o Fyfyrwyr yn Graddio!

Ar ddydd Gwener (Gorffennaf 8) mewn seremoni yn dynodi diwedd y flwyddyn academaidd, dathlwyd llwyddiannau dros 200 o fyfyrwyr Gradd Anrhydedd, Gradd Sylfaen, HND, ac Ôl-radd o dri choleg Grŵp Llandrillo Menai.

Yno hefyd i gymryd rhan roedd cynrychiolwyr o brifysgolion cyswllt a phartneriaid y Coleg yng Nghymru a Lloegr, yn y Seremoni Raddio a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno, yn llygad cynnes yr haul, o flaen llond theatr o tua mil o fyfyrwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Heddiw, mae gan y Grŵp tua 1,000 o fyfyrwyr Addysg Uwch yn astudio ar 50 o lwybrau gradd gwahanol, gyda dros 300 o fyfyrwyr yn graddio pob blwyddyn, nifer gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnwys Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.

Ymysg y graddedigion oedd wrth eu bodd oedd Nikki Cotton o Landrillo-yn-Rhos, a raddiodd gyda MA yn y Celfyddydau Cain.

Cynhwyswyd ei gwaith celf hefyd yn yr arddangosfa gelf ar-safle gyntaf a gynhaliwyd gan Grwp Llandrillo Menai ers i bandemig COVID-19 ddechrau. Meddai: "Mae'n ffordd ardderchog o astudio a phellhau eich gyrfa gan fedru parhau i fwynhau bywyd cartref."

Cwblhaodd y cwpl Emma Hickman a Shaun Orr o Minffordd ger Penrhyndeudraeth ill dau gyrsiau Addysg Uwch yr un pryd ar gampws Dolgellau Coleg Meirion Dwyfor. Graddiodd Sean gyda HNC mewn Peirianneg, a graddiodd Emma gyda Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dyma ddywedon nhw:

"Roeddem wrth ein bodd i fedru astudio yn yr un coleg. Roedd yr hyblygrwydd a roddwyd i ni fel teulu ifanc yn wych. Byddem yn argymell yn fawr dod yma i astudio!"

Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Mae'n bleser gennyf groesawu gwahoddedigion, enillwyr graddau a diplomâu i Seremoni Raddio 2020. Mae'r seremoni yma'n dathlu ffrwyth gwaith blynyddoedd o astudio, ymrwymiad ac ymdrech gan ein myfyrwyr a'n staff addysgu. Mae'r seremoni yn cydnabod yn ffurfiol ddyfarnu graddau a diplomâu i'n myfyrwyr Addysg Uwch.

I gefnogi elusen dethol y flwyddyn yr Undebau Llafur, Macmillan Cancer Support, gwerthwyd 50 tedi coffaol i raddedigion, gyda'r holl elw yn mynd i'r elusen.

Mae Grwp Llandrillo Menai yn parhau i ehangu ei bortffolio o gyrsiau Addysg Uwch, yn annibynnol ac mewn partneriaeth gyda sefydliadau Addysg Uwch gan gynnwys Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfyn, Prifysgol Glyndwr ac Edexcel. Yn ogystal â'r rhaglenni gradd anrhydedd a'r diplomau cenedlaethol uwch traddodiadol, mae'r coleg wedi bod yn flaenllaw wrth ddatblygu a hyrwyddo Graddau Sylfaen a chyrsiau galwedigaethol arloesol ac unigryw.

Mae'r Ganolfan Brifysgol gwerth £4.5 miliwn ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos, a adeiladwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor ac sy'n ganolfan ar gyfer bron i 1,00 o ddysgwyr, yn darparu cyfleusterau addysgu a dysgu wedi eu teilwra i fyfyrwyr Addysg Uwch mewn un canolfan bwrpasol, yn hytrach nag mewn lleoliadau gwahanol ar draws y campysau.

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n un o grwpiau colegau Addysg Bellach mwyaf y Deyrnas Unedig. Mae nawr yn cyflogi dros 2,000 o staff ac yn ychwanegol i'w gyfleusterau busnes ac ymchwil, mae'r Grŵp yn cyflwyno cyrsiau i tua 27,000 o fyfyrwyr ar draws pedair sir mewn campysau o'r Rhyl i Ddolgellau.

I gael rhagor o wybodaeth am raddau neu gyrsiau Addysg Uwch sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk