Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn penodi Prif Weithredwr newydd

Mae grŵp colegau addysg bellach mwyaf Cymru wedi penodi Prif Weithredwr newydd.

Mae’r Grŵp wedi penodi Aled Jones-Griffith i’r swydd, a bydd yn olynu Dafydd Evans sy’n ymddeol ym mis Awst wedi 32 mlynedd gyda’r sefydliad.

Ymunodd Aled â Choleg Menai fel Cyfarwyddwr Cyfadran yn 2007 ac mae wedi bod yn Bennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor ers 2018. Yn ogystal â'i swydd fel Pennaeth, mae gan Aled gyfrifoldeb cyffredinol ar draws Grŵp Llandrillo Menai am Ddysgu Oedolion a Dysgu yn y Gymuned.

Cyn ymuno â'r sector addysg bellach, gweithiodd Aled fel rheolwr mewn amryw o sectorau gan dreulio pedair blynedd yn Brif Weithredwr ar Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn. Gwasanaethodd hefyd ar Gyngor Cynulleidfa Cymru'r BBC am ddau dymor.

Yn ystod ei gyfnod yng Ngrŵp Llandrillo Menai, mae Aled wedi ymgymryd â llawer o rolau gwahanol gan gynnwys cadeirio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ar y Cyd, a chynrychioli GLlM ar Grŵp Rhanddeiliaid Sgiliau Ffilm a Theledu Cymru Greadigol a Grŵp Llywio'r Gogledd Creadigol.

Mae gan Aled ddiddordeb mawr mewn chwaraeon ac mae wedi cyfrannu i'w glwb pêl-droed lleol dros y blynyddoedd drwy wneud swyddi amrywiol. Mae'n cael pleser mawr o weld pobl ifanc yn cyflawni eu potensial ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Dymunodd Dr Griff Jones, Cadeirydd y Bwrdd yn dda i Aled yn ei swydd newydd gan ei longyfarch ar ei benodiad. Dywedodd, ⁠

“Mae’r Grŵp wedi gweithio’n galed i ddarparu addysg a hyfforddiant rhagorol i’w ddysgwyr a’i bartneriaid amrywiol. Rydw i'n hyderus y bydd Aled yn gallu adeiladu ymhellach ar y llwyddiant hwnnw.”

Ychwanegodd Dafydd Evans, y Prif Weithredwr presennol,

“Mae wedi bod yn fraint cael gwasanaethu Grŵp Llandrillo Menai – gwn y bydd Aled yn gwneud gwaith ardderchog. Bydd yn arwain tîm arbennig o staff ac yn tywys y sefydliad at lwyddiannau pellach.

“Bellach mae gan Grŵp Llandrillo Menai drosiant blynyddol o £93m, a gall gael dylanwad gwirioneddol ar economi Gogledd Cymru.”

Meddai Aled:

“Rydw i wrth fy modd fy mod wedi cael fy mhenodi'n Brif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai a bydd yn fraint cael arwain y sefydliad. Edrychaf ymlaen at gael adeiladu ymhellach ar y proffil ansawdd a'r proffil ariannol rhagorol sydd ganddo.

“Fy mwriad yw cadarnhau ein sefyllfa fel sefydliad blaenllaw ym maes addysg bellach a hyfforddiant dwyieithog yng Nghymru. Mae gennym dîm rhagorol o staff ac mae ein cyn-fyfyrwyr yn profi ein bod yn llwyddo yn ein nod o Wella Dyfodol Pobl.”

Ychwanegodd,

“Gan weithio ochr yn ochr â’n rhanddeiliaid, byddaf yn sicrhau bod Grŵp Llandrillo Menai yn parhau i weithio i ysgogi a chefnogi ein dysgwyr a’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu, ac i gyfrannu at greu a chynnal economi fywiog a chynaliadwy yng Ngogledd Cymru.”