Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hazel yn codi £950 i Hero Paws

Cynhaliwyd raffl a chystadleuaeth Dyfalu Enw’r Ci yn Y Bistro er budd yr elusen sy’n cefnogi cŵn sydd wedi ymddeol o’r fyddin a’r heddlu

Cododd Hazel Ramsay, sy'n hyfforddwraig yng Ngholeg Llandrillo, dros £950 i Hero Paws, elusen sy'n cefnogi cŵn sydd wedi ymddeol o’r fyddin a’r heddlu.

Fe wnaeth Hazel, sy’n rhedeg bwyty’r Bistro ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, gynnal raffl a chystadleuaeth ‘Dyfalu Enw’r Ci’, a hefyd werthu tocynnau raffl i ennill hamper o wyau Pasg er budd yr elusen.

Helpodd myfyrwyr y cyrsiau Lefel 1, 2 a 3 mewn Lletygarwch ac Arlwyo i werthu'r tocynnau, gyda Hazel yn cynnig gwobrau i’r myfyrwyr a werthodd y mwyaf.

Cafodd help hefyd gan grŵp o fyfyrwyr cwrs Sylfaen yr adran Sgiliau Byw'n Annibynnol, a gododd £44.33 drwy bacio bagiau yn Morrisons.

Codwyd cyfanswm o £950.35, a fydd rŵan yn mynd i helpu’r cŵn sydd wedi ymddeol o’r fyddin, yr heddlu, a’r gwasanaeth tân ac achub.

Dywedodd Hazel: “Mae fy merch yn gweithio gyda chŵn milwrol yn yr Awyrlu Brenhinol. Mae hi ar daith ar hyn o bryd, a thrwy ei gwaith yn arwain ymgyrch i godi arian i Hero Paws.

“Mae hi'n elusen werth chweil sy'n helpu ac yn ailgartrefu cŵn sydd wedi ymddeol o’r fyddin a'r heddlu. Dydi hi ddim yn hawdd ailgartrefu’r cŵn hyn felly mae angen llawer o arian a chymorth arnyn nhw.

“Diolch o galon i bawb a gyfrannodd wobrau neu a brynodd docyn raffl, ac i’r rhai wnaeth Ddyfalu Enw’r Ci. Fyddai hyn heb fod yn bosibl heb gefnogaeth hael pawb a gymerodd ran."

Dywedodd Gail Clydesdale, un o Ymddiriedolwyr Hero Paws: “Hoffem estyn ein gwerthfawrogiad diffuant i Hazel a’r holl wirfoddolwyr a chyfranwyr a wnaeth yr ymgyrch codi arian yn llwyddiant.

“Bydd yr arian o fudd i’r cŵn rydyn ni'n eu cefnogi, yn talu am feddyginiaeth ac atchwanegiadau i’w helpu i fwynhau ymddeoliad hir a hapus, yn rhydd o boen. Heb ymdrechion anhygoel Hazel a phobl eraill debyg, allen ni fyth ddal ati i gefnogi’r cŵn hyn."

Enillwyr cystadleuaeth Dyfalu Enw’r Ci oedd Grace Ware a Poppy Doherty – myfyrwyr a roddodd eu gwobr i Glenda Roberts sy'n aelod o staff. Enillodd Sharon Formstone, y Swyddog Cyllid Myfyrwyr wobr hefyd.

Enillodd Grace a Poppy hefyd wobr am werthu’r nifer fwyaf o docynnau i’r gystadleuaeth Dyfalu Enw’r Ci. Erin Price enillodd y wobr am werthu'r nifer fwyaf o docynnau raffl.

Roedd y gwobrau raffl yn cynnwys tocyn teulu ar gyfer golff gwallgof, taleb i Cookhouse yn y Rhyl, tocynnau sinema, tocynnau trên stêm, talebau blodau, hamperi, llyfrau, nwyddau harddwch, pethau ymolchi, a llawer mwy, gyda rhai gwobrau wedi’u gwneud gan staff dawnus yn y coleg.

Yn gynharach eleni, cynhaliodd Hazel raffl arall yn Y Bistro, gan godi £863 i Wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.

Meddai: “Mae hi’n bwysig cefnogi'r elusennau arbennig hyn sy’n gwneud gwaith gwych i helpu pobl o bob cefndir. Dw i wrth fy modd yn annog y dysgwyr i gymryd rhan a dw i’n siŵr y byddwn ni'n dal ati i wneud gwahaniaeth, flwyddyn ar ôl blwyddyn.”