Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn cyhoeddi Strategaeth Hydrogen newydd

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol i greu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Ynni Hydrogen fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i leihau carbon.

Gan weithio gyda phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol yn ogystal â chwmnïau, mae'r Grŵp yn anelu at sefydlu cyfleusterau a rhaglenni hyfforddi arbenigol i gefnogi'r diwydiant a'r gweithlu i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan ynni hydrogen.

Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno mewn meysydd megis gwresogi ac ynni domestig, gwresogi masnachol, a cherbydau trwm.

Mae'r Strategaeth Hydrogen yn cynnwys:

  • Cyflwyno hyfforddiant ar sut i fewnosod offer systemau hydrogen mewn cartrefi a busnesau mewn partneriaeth gyda Worcester Bosch a hynny o ganolfan Hyfforddi Carbon Sero newydd yn CIST yn Llangefni.
  • Datblygu arbenigedd mewn defnyddio hydrogen ar gyfer cerbydau trwm a cherbydau personol.
  • Defnyddio hydrogen i ddadgarboneiddio ei fferm yng Ngholeg Glynllifon.
  • Archwilio'r posibilrwydd o wresogi'n gyfan-gwbl trwy ddefnyddio hydrogen yn rhai o brif adeiladau'r Grŵp.
  • Rhaglennui sgiliau'r dyfodol ar gyfer storio, rheoli a chludo hydrogen.

Eglurodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Mae gan y sector addysg bellach rôl allweddol i'w chwarae mewn cwrdd â thargedau net sero'r Llywodraeth yma yng Nghymru.

"Mae'n glir y bydd, fel rhan o'r agenda i ddadgarboneiddio, galw cynyddol am hydrogen carbon isel dros y blynyddoedd nesaf.

"Rydyn ni'n awyddus i fabwysiadu technoleg hydrogen yn gynnar a pharhau i arloesi wrth i ni barhau i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

"Ein nod yw trosglwyddo a chyfnewid ein gwybodaeth a'n profiad a dod yn ddarparwr hyfforddiant cydnabyddedig yn y maes.

"Rydyn ni'n arbennig o falch o fod y coleg cyntaf yng Nghymru i amlinellu sut yr ydyn ni'n bwriadu harnesu potensial hydrogen i helpu gyda'n rhaglen ddadgarboneiddio ni fel Grŵp, yn ogystal ag uwchsgilio'r gweithlu a chefnogi cwmnïau."

Mae'r Grŵp eisoes mewn trafodaethau gyda datblygwyr a chynhyrchwyr allweddol er mwyn sefydlu partneriaethau gweithredol i gyflawni'r weledigaeth a amlinellir yn y Strategaeth.

Mae'r Grŵp yn hyderus y bydd y trafodaethau hyn yn arwain at gytundebau a phrosiectau ffurfiol yn y misoedd nesaf er mwyn hyrwyddo mwy o gynhyrchu a defnyddio ynni hydrogen yng Nghymru.

Ychwanegodd Dafydd: "Rydym ar flaen y gad yn y sector addysg bellach yma yng Nghymru o ran delifro Partneriaethau Cyfnewid Gwybodaeth.

"Mae gennym ni lawer o brofiad o gydweithio'n llwyddiannus gyda chwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol ac o fod yn arloesol mewn sawl maes.

"Mae hyn wedi arwain at nifer o brosiectau sylweddol sydd wedi ychwanegu gwerth gwirioneddol yn rhanbarth Gogledd a Chanolbarth Cymru.

"Trwy adeiladu ar sail y profiad hwnna a chydweithio gydag eraill, yn cynnwys cwmnïau mawr a phrosiectau hydrogen eraill, gallwn wneud cyfraniad proactif i'r tirlun ynni hydrogen yng Nghymru a thu hwnt.

"Bydd hyn yn newydd da i'r amgylchedd, a hefyd i gyflogwyr a chyflogeion wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y cyfleoedd a gynigir gan dechnolegau newydd sy'n lanach ac yn is mewn carbon."