Myfyrwyr yn derbyn capiau Cymru gan gyn-chwaraewr yn yr Uwch Gynghrair
Cafodd pedwar aelod o dîm Coleg Menai / Coleg Meirion-Dwyfor eu cydnabod yng ngwobrau blynyddol Cymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru
Cyflwynwyd capiau rhyngwladol i bedwar o bêl-droedwyr Grŵp Llandrillo Menai gan gyn-chwaraewr yn yr Uwch Gynghrair, Angel Rangel.
Cafodd Morgan Davies, Byron Davis, Osian Morris a Rhys Williams eu cydnabod yn seremoni wobrwyo flynyddol Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru.
Cynrychiolodd y pedwar dîm Cymru yn nhwrnamaint blynyddol Roma Caput Mundi yn yr Eidal, ac yng nghystadleuaeth nodedig Tarian y Canmlwyddiant yn erbyn y gwledydd eraill Prydain, ymhlith gemau eraill yn ystod y tymor.
Maen nhw i gyd yn chwarae i dîm Coleg Menai / Coleg Meirion-Dwyfor a orffennodd yn drydydd yn Uwch Gynghrair Colegau Lloegr, y tu ôl i'r pencampwyr Y Seintiau Newydd a Choleg Hopwood Hall.
Yn y seremoni ym Mhort Talbot, cyflwynwyd eu capiau iddynt gan gyn-gapten Dinas Abertawe, Rangel, a’u hanerchodd â geiriau calonogol o’r galon, gan gydnabod yr ymdrech, yr ymrwymiad, y balchder a’r proffesiynoldeb a ddangoswyd ganddynt wrth gynrychioli eu gwlad.
Enillodd Osian Morris (Coleg Meirion-Dwyfor a Dolgellau Athletic) wobr am fod y Chwaraewr sydd wedi Gwella Fwyaf y Flwyddyn. Cafodd ei ddewis ar gyfer y wobr gan staff Hyfforddi Dan 18 Ysgolion Cymru i gydnabod ei gyfraniad rhagorol drwy gydol y tymor, a oedd yn cynnwys sgorio chwe gôl mewn gemau allweddol.
Mae Morgan, Byron, Osian a Rhys i gyd yn aelodau o Academi Menai, sy'n eu galluogi i gyfuno eu hastudiaethau â hyfforddi a chwarae i dîm Coleg Menai/Coleg Meirion-Dwyfor - pêl-droed colegau ar y lefel uchaf.
Dywedodd Marc Lloyd Williams, Cydlynydd Academi Coleg Menai a Rheolwr Tîm Ysgolion Cymru dan 18: “Mae cyfraniad dysgwyr Coleg Menai / Meirion-Dwyfor i’r garfan genedlaethol yn dyst i ansawdd yr hyfforddi a’r datblygiad yn y coleg a chyda’u clybiau.
“Rydyn ni'n falch o’r dysgwyr am gynrychioli eu coleg, eu clwb a'u gwlad gyda balchder tra roeddent i ffwrdd ar ddyletswydd ryngwladol.”
Cafodd ymgyrch a thrydydd safle Coleg Menai / Coleg Meirion-Dwyfor yn y gynghrair ei hadeiladu ar waith caled, disgyblaeth dactegol, ac ymrwymiad i ddatblygu chwaraewyr ar gyfer y lefel nesaf. Yn ogystal â chwarae i Ysgolion Cymru, enillodd Byron, Morgan ac Osian gydnabyddiaeth ryngwladol gyda thîm Colegau Cymru dan 19 oed, gan gynrychioli eu gwlad ar gyfanswm o 12 achlysur rhwng y ddwy garfan.
Ychwanegodd Marc Lloyd Williams: “Mae cyflawniadau’r dysgwyr ifanc yma yn tynnu sylw at sut mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig mwy na chymwysterau galwedigaethol ac academaidd yn unig. Mae'n darparu llwyfan lle mae addysg a datblygiad pêl-droed elitaidd yn mynd law yn llaw, gan helpu dysgwyr i dyfu'n academaidd ac yn athletaidd.
“Daeth y pedwar dysgwr i mewn i’r coleg drwy lwybr datblygu Clwb Tref Caernarfon o Uwch Gynghrair Cymru. Mae eu cyfranogiad ar lefel academi gyda'r clwb wedi sicrhau sylfaen gref, gan eu helpu i symud yn esmwyth i'r amgylchedd pêl-droed perfformiad uchel ac academaidd yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
“Mae’r cydweithio yma'n yn tynnu sylw at bŵer partneriaethau hefo clybiau cymunedol wrth bontio pêl-droed ar lawr gwlad a phêl-droed academi gydag addysg bellach a chynrychioli eu gwlad.
“I ddarpar ddysgwyr â diddordeb brwd mewn pêl-droed, mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amgylchedd cefnogol i hyfforddi, i gystadlu ac i wneud cynnydd, tra'n ennill cymwysterau hanfodol mewn amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd sy’n agor drysau ar gyfer y dyfodol.
“Boed yn anelu at yrfa ym myd chwaraeon neu’n meithrin sgiliau ar gyfer bywyd, gall pêl-droed coleg fod yn rhan bwerus o’ch taith yma yng Ngrŵp Llandrillo Menai.”
Ydych chi eisiau astudio a chael cymryd rhan mewn chwaraeon ar yr un pryd? Dysgwch ragor am academïau chwaraeon Grŵp Llandrillo Menai yma.
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Chwaraeon yn amrywio o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma.