Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hari Roberts yn cael ei ddewis ar gyfer Rhaglen Busnes ac Arloesi Cyswllt Ffermio.

Mae Hari Roberts, o Lannefydd yng Nghonwy, sydd newydd orffen Prentisiaeth Lefel 3 yng Ngholeg Glynllifon wedi cael ei dewis ar gyfer y Rhaglen Busnes ac Arloesi gyda Chyswllt Ffermio.

Nod y rhaglen sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru yw - Cefnogi datblygiad personol trwy weithdai a seminarau, cynnig cyfle i gwrdd ag arbenigwyr ac arweinwyr busnes yn y diwydiant, creu amgylchedd i wella sgiliau rheoli busnes ac i hybu rhwydweithio effeithiol ymysg y busnesau amaethyddol mwyaf blaengar yng Nghymru.

Meddai Hari Roberts -

“Rwy’n gobeithio ehangu fy ngwybodaeth o’r sector amaethyddol a chyfarfod â busnesau sydd ar y blaen ac yn arwain ffyrdd newydd o ffermio, megis ymgorffori arferion amgylcheddol cynaliadwy i mewn i arferion a strategaeth busnes. Rwy’n edrych ymlaen at gael siarad â phobl o’r un anian sy’n rhannu’r un awydd i wella eu busnes ac sydd ddim yn ofni cymryd risgiau. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn gymorth i mi fynd â’n busnes i’r cam nesaf.”

Mae gan Hari yr uchelgais ehangu’r busnes ffermio tu hwnt i’w ffrydiau incwm presennol trwy archwilio dulliau newydd ac mae’n ystyried defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygodd yn y sector llaeth i fagu heffrod llaeth. Yn ymwybodol o’r cyfleoedd a all godi o ganlyniad i newid, mae Hari yn benderfynol o wneud y mwyaf o botensial y busnes.

Dywedodd Charlotte Roberts, Asesydd prentisiaethau amaethyddol yng Nglynllifon -

“Yn 19 oed, mae Harry wedi gwneud yn dda iawn i fynd ar y rhaglen Busnes ac Arloesi, yn hytrach na’r rhaglen iau. Roeddem bob amser yn gwybod bod gan Hari ddyfodol disglair iawn yn y diwydiant amaeth. Rydym yn falch iawn ohono. "

Pob lwc Hari a da iawn ti.

Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ewch i : www.gllm.ac.uk : 01286 830 261 enquiries.glynllifon@gllm.ac.uk