ADRAN CERBYDAU MODUR YN CYFLWYNO CWRS NEWYDD AR DRYDAN HYBRID
Aeth Adran Cerbydau Modur Coleg Menai yn Llangefni ati i gyflwyno ei gwrs cyntaf ar gynnal a chadw cerbydau trydan hybrid yn ddiweddar.
Treuliodd dysgwyr o garejys lleol dri diwrnod yn y coleg yn cwblhau Dyfarniad Lefel 2 a Lefel 3 City and Guilds mewn Gwaith Trwsio ac Amnewid Mewn Cerbydau Trydan Hybrid.
Mae'r cwrs newydd cyffrous hwn yn dysgu dysgwyr sut i weithio'n ddiogel ar systemau cerbydau modur foltedd uchel ac yn cynnwys asesiadau ar ynysu batris foltedd uchel a thynnu darnau foltedd uchel.
Mae'r Adran Cerbydau Modur wedi buddsoddi tua £62,000 yn ddiweddar yn prynu cerbydau ac offer trydan hybrid gwahanol, yn cynnwys ceir trydan megis Volkswagen E-Golf, Toyota Yaris, a Toyota Hybrid.
Dywedodd Damian Woodford, Rheolwr Maes Rhaglen ym maes Peirianneg,
"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous yn yr adran wrth i ni geisio cyflwyno'r hyfforddiant diweddaraf sy'n angenrheidiol yn y diwydiant"
Ar ddechrau'r cwrs roedd y dysgwyr yn bryderus am weithio gyda cheir hybrid a thrydan. Erbyn iddyn nhw orffen y cwrs roedd yn braf gweld eu bod yn hyderus i weithio ar gerbydau trydan a hybrid yn ddiogel ac yn effeithiol".