Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Glynllifon yn cynnal ffair gyrfaoedd mewn coedwigaeth i tua 100 o blant

Dysgodd darpar fyfyrwyr o bob rhan o Ogledd Cymru am yrfaoedd gwahanol, gan gynnwys plannu coed, torri coed, gweithredu peiriannau a chadwraeth

Cynhaliodd Coleg Glynllifon ffair yrfaoedd y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol a daeth bron i 100 o blant ysgol o bob rhan o Ogledd Cymru.

Nod y diwrnod, a gynhaliwyd ar y campws addysg diwydiannau'r tir, oedd dangos yr ystod o lwybrau gyrfa gwahanol o fewn coedwigaeth.

Mae hyn yn cynnwys plannu coed, gwaith gwyddonol (chwilio a phrofi am glefydau), torri coed, gweithredu peiriannau, cadwraeth a llawer mwy.

Dywedodd Jeff Jones, y darlithydd coedwigaeth: “Cafodd ysgolion ar draws Gogledd Cymru eu gwahodd ac ar y diwrnod roedd bron i 100 o blant ysgol o bob rhan o’r rhanbarth.

“Cafodd y plant gyfle i siarad â chynrychiolwyr o’r diwydiant, gyda sefydliadau fel Kronospan o’r Waun a chwmni coedwigaeth Tilhill i enwi dim ond rhai.

“Roedd gweithdai eraill yn cynnwys gwneud mesuriad sylfaenol (mesur cyfaint y pren) gyda Phrifysgol Bangor, gweithredu efelychydd cynaeafu gyda’r arbenigwyr hyfforddi diwydiannau’r tir Mwmac, a golwg ar dorri coed a chyfleusterau’r coleg.”

Daeth disgyblion o Ysgol Uwchradd Bodedern, Ysgol Glan Y Môr ym Mhwllheli, Ysgol Botwnnog ym Mhen Llŷn, Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth, ac Ysgol Clywedog yn Wrecsam.

Dywedodd Becky Wilkinson, rheolwr dysgu ac allgymorth y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol: “Diolch anferthol i Goleg Glynllifon am gynnal y diwrnod ac i’r holl sefydliadau a ddaeth draw i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o goedwigwyr a thyfwyr coed.

“Mae’r sector yn tyfu’n gyflym ac mae cymaint o gyfleoedd ar gyfer gyrfa werth chweil.”

Campws diwydiannau'r tir, sy'n cynnwys cyfleusterau preswyl, yw Glynllifon. Saif ar Ystâd Glynllifon ger Caernarfon. Mae fferm Glynllifon, gan gynnwys y coetir, yn 300 hectar, ac yn amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheolaeth cefn gwlad ac astudiaethau amaethyddol.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Rheoli Coedwigaeth a Chefn Gwlad yng Nglynllifon, cliciwch yma.