Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-Fyfyriwr Coleg a weithiodd ochr yn ochr â bwyty Heston Blumenthal

Mae cyn-fyriwr Coleg Llandrillo a chogydd hyfforddi sy'n cario seren Michelin, a fu'n gweithio gyda'r cogydd enwog Heston Blumenthal, wedi lansio ei fwyty ei hun yng Nghonwy.

Bu Nick Rudge, 27, yn gweithio yn y Fat Duck yn Bray, Berkshire - bwyty enwog Heston Blumenthal sy'n cario tair seren Michelin, am saith mlynedd cyn symud yn ôl i Gymru wedi cyfnod ar ffyrlo yn ystod y pandemig.

Enw ei fwyty newydd yw The Jackdaw - yr enw traddodiadol ar y bobl sydd wedi'u geni o fewn muriau'r dref. Symudodd Nick yn ôl gartref i Landudno yn gynharach eleni oherwydd bod Covid wedi rhoi stop ar ei waith. Cyn rhoi cynnig ar y fenter newydd hon, roedd wedi bod yn cynnig gwasanaeth tecawê, sef The Jackdaw at Home.

Cafodd swydd yn nhŷ bwyta Heston Blumenthal sy'n cario tair seren Michelin yn 2014 yn syth wedi gadael campws Coleg Llandrillo yn dilyn profiad gwaith llwyddiannus yno.

Ond treuliodd Nick y rhan fwyaf o 2015 yn gweithio gyda Heston Blumenthal yn Melbourne, ar ôl i'r cogydd enwog 'hedfan' y Fat Duck 10,000 i'r de tra bod y tŷ bwyta gwreiddiol yn Berkshire yn cael ei ail-wampio ar gost o £2.5miliwn.

Dywedodd Brian Hansen, un o diwtoriaid Nick yng Ngholeg Llandrillo:
"Dangosodd Nick y sgiliau sydd angen ar gyfer rhagoriaeth yn y diwydiant lletygarwch ac mae'n esiampl ardderchog i fyfyrwyr eraill."

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Llandrillo, ewch i www.gllm.ac.uk neu ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk

* Mae'r llun o Nick yn dod o 2014, ychydig cyn iddo adael ei astudiaethau coleg am swydd yn gweithio ochr yn ochr â Heston Blumenthal