Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-bennaeth yn cael ei Hurddo gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ddydd Mawrth 19 Mawrth, yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor, cafodd Linda Wyn ei hurddo'n Gymrawd er Anrhydedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ei chyfraniad oes tuag at addysg cyfrwng Cymraeg.

Linda oedd Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai hyd 2019, a bu hefyd yn aelod o Fwrdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn Is-gadeirydd am sawl blwyddyn.

Yn ystod ei gyrfa ym maes Addysg Bellach roedd Linda'n gyfrifol am nifer fawr o ddatblygiadau arloesol i hyrwyddo'r Gymraeg. Datblygodd cyrsiau proffesiynol yn sylweddol o dan ei harweinyddiaeth, a Choleg Menai oedd y coleg cyntaf i gynnig cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Rheoli, Adnoddau Dynol a Hyfforddiant.

Arweiniodd y gwaith o ddatblygu cyrsiau'r Dystysgrif Addysg Gychwynnol ym maes Addysg Bellach ac, yn ogystal â sicrhau bod y cwrs ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn y coleg, roedd yn gyfrifol am ddatblygu modiwlau dysgu dwyieithog ar gyfer y sector, gan annog staff i arbrofi gyda defnyddio dulliau dysgu newydd mewn gwersi.

Coleg Menai oedd y coleg cyntaf i gynnig cyrsiau dysgu Cymraeg ar-lein, a Linda arweiniodd y gwaith o ddatblygu’r cwrs Clic Cymraeg – y rhaglen ryngweithiol gyntaf ar gyfer dysgu Cymraeg.

Fel uwch-reolwr yn y coleg, roedd Linda'n benderfynol o weld cynnydd yn nifer y cyrsiau oedd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog a gosododd dargedau pendant er mwyn cynyddu nifer y dysgwyr oedd yn dilyn eu cyrsiau yn y Gymraeg.

Dechreuodd y prosiect cyntaf i fentora a chynyddu hyder staff, ac i ddatblygu a rhannu adnoddau cyfrwng Cymraeg. Gyda hyn, cafodd y prosiectau hyn eu hefelychu mewn colegau eraill yng Nghymru. Er mwyn annog rhagor o ddysgwyr i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, datblygodd Linda'r cymhwyster ‘Iaith ar Waith’, oedd yn cydnabod eu gallu i weithio’n hyderus yn y Gymraeg. ⁠Maes o law, cafodd y cymhwyster hwn ei achredu gan CBAC ac roedd ar gael i ddysgwyr ledled Cymru.

Meddai Linda,

“Pleser yw cael fy nerbyn yn Gymrawd er Anrhydedd o’r Coleg. Yn ystod fy nghyfnod fel aelod o’r Bwrdd ac fel Is-gadeirydd y Coleg, cefais y fraint o fod yn rhan o ddatblygiad cynnar y Coleg a thystio i frwdfrydedd ac ymroddiad y staff a’r aelodau.”

Ychwanegodd, “Yn ddiamau, mae’r hyn a gyflawnwyd gan y Coleg ers y dyddiau cynnar hynny yn wirioneddol ryfeddol a braf iawn yw gweld bod y cynnydd ardderchog a wnaed i gynyddu addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch yn awr yn cael ei ymledu i addysg bellach a dysgu yn y gweithle.”

A dyma eiriau Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Dr Ioan Matthews:

“Llongyfarchiadau i Linda ar gael ei anrhydeddu yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg ym Mangor. Rydym wedi mwynhau dathlu ei llwyddiannau a'i chyfraniad at addysg uwch ac addysg bellach cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.”