Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ethol Deio yn Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru

Cyhoeddwyd mai’r cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor fydd y Llywydd newydd yng Nghynhadledd flynyddol Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth

Deio Owen, cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor, fydd Llywydd nesaf UCM Cymru.

Cyhoeddwyd mai Deio fydd y Llywydd newydd yng nghynhadledd flynyddol Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) Cymru.

Fe fydd yn dechrau ei dymor yr haf hwn, a dywedodd y bydd yn gweithio i sicrhau bod myfyrwyr yn “cael y fargen orau posib”.

⁠Astudiodd Deio, o Abererch ger Pwllheli, ei bynciau Lefel A ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli a gwasanaethodd hefyd fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr i'r coleg.

Graddiodd o Brifysgol Caerdydd y llynedd gyda Gradd yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth. Yn ddiweddar, fe’i penodwyd yn Is-Lywydd Iaith Diwylliant a Chymuned Cymru ar gyfer Undeb Myfyrwyr Caerdydd.

Ar ôl cael ei ethol yn Llywydd UCM Cymru, dywedodd Deio: “Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy rôl newydd fel Llywydd UCM Cymru ym mis Gorffennaf.

“Ar ôl bod yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn y coleg a bellach yn gweithio fel swyddog llawn amser yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, dw i’n gobeithio gwneud y mwyaf o fy mhrofiad mewn addysg bellach ac uwch.

“Rydyn ni ar drobwynt yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru, a dw i’n edrych ymlaen at sicrhau bod myfyrwyr ac undebau myfyrwyr yn cael y fargen orau posib.”

Ar ôl y gynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ychwanegodd Deio: “Roedd yn wych bod yn ôl yng nghynhadledd UCM Cymru bedair blynedd yn ddiweddarach ar ôl mynd yno gyntaf gyda Grŵp Llandrillo Menai, a’r tro hwn gydag wynebau ffres yn cynrychioli myfyrwyr o bob rhan o’r Grŵp.

“Cawsom gyfle i drafod diwygio, annibyniaeth Cymru a mynediad at bolisïau gofal iechyd. Roedd yn wych cael cynrychiolwyr o’r Grŵp yno yn rhoi mewnbwn ar sut mae pethau’n effeithio ar ddysgwyr Addysg Bellach, a sut mae angen i ni gydweithio’n agosach i gyflawni ar gyfer holl fyfyrwyr y sector ôl-16.”

Penodwyd Deio hefyd yn un o ddau Ymddiriedolwr Ifanc newydd Urdd Gobaith Cymru yn ddiweddar. Emily Pemberton o Gaerdydd oedd y llall.

Penodwyd y ddau am gyfnod o dair blynedd, a byddant yn eistedd ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, gan sicrhau bod gan bobl ifanc lais yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer sefydliad ieuenctid mwyaf Cymru.