Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Bydwraig o Syria, sy'n fyfyriwr yn Y Rhyl, ar Restr Fer ar gyfer Gwobr Genedlaethol

Mae myfyrwraig o Goleg Llandrillo, oedd yn gweithio fel bydwraig yn Syria cyn iddi orfod symud i Brydain gyda'i theulu, wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer Gwobr Genedlaethol.

Mae Amal Alkhatib sy'n byw yn Y Rhyl wedi bod yn dilyn amrywiaeth o gyrsiau ESOL (Saesneg ar Gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yn y coleg dros y pum mlynedd diwethaf ac mae hi wedi ei henwebu ar gyfer gwobr Womenspire 2021 - Chwarae Teg.

Gadawodd Amal yr ysgol yn 18 cyn mynd ymlaen i ddilyn cwrs nyrsio a chymhwyso fel bydwraig. Gweithiodd ym mhrifddinas Syria, Damascus, am saith mlynedd cyn symud gyda'i theulu i Libanus. Ar ôl cael ei gorfodi i newid lleoliad eto yn Libanus - pum gwaith mewn pum mlynedd - daeth Amal i'r DU fel ffoadur.

Pan gyrhaeddodd hi'r DU, doedd hi ddim yn siarad dim Saesneg. Felly, ar ôl ymgartrefu yn y Rhyl cofrestrodd ar nifer o gyrsiau yng ngholeg y dref honno.

Cafodd ei henwebu ar gyfer y wobr gan Llinos Blackwell, ei thiwtor, a nododd bod Amal wedi "gwneud cynnydd ardderchog ar ei chwrs". Enillodd Amal le yn ddiweddar ar y cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'i nod ydy dychwelyd at ei diddordeb gwreiddiol, bydwreigiaeth.

Meddai Llinos: “Mi wnes i enwebu Amal ar gyfer y wobr oherwydd roeddwn i eisiau i'w hagwedd gadarnhaol, ei hymroddiad a'i pharodrwydd i gefnogi eraill gael ei gydnabod yn ehangach. Mae hi'n ysbrydoliaeth i eraill."

Dywedodd llefarydd ar ran Chwarae Teg: "Unwaith eto eleni rydym yn llawn parch at y menywod anhygoel sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer ein Gwobrau Womenspire. Cafodd staff Chwarae Teg oedd ar y panel beirniadu eu cyffwrdd gan hanesion y rhai a gafodd eu henwebu ac rydym yn edrych 'mlaen at gyflwyno'r rhestr fer i chi, sy'n cynnwys unigolion a ddewiswyd o blith cannoedd o geisiadau o bob cwr o Gymru.

Mae Womenspire yn cydnabod cyflawniad menywod ym mhob agwedd o fywyd: o gyflawniadau personol i gyfraniadau anhygoel. Mae Gwobrau Womenspire Chwarae Teg yn rhoi lle blaenllaw i gyflawniadau anhygoel menywod o bob cwr i Gymru fydd yn ysbrydoli erial yn y dyfodol.

Mae Chwarae Teg yn elusen sy'n ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu cydraddoldeb ar sail rhyw yng Nghymru. Ers 1992 mae wedi bod yn gweithio i sicrhau bod menywod yng Nghymru yn cael mynediad at y gweithle, i ddatblygu eu sgiliau a dilyn gyrfaoedd llwyddiannus.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau ESOL, neu unrhyw gyrsiau eraill ar gampws Coleg Llandrillo yn Y Rhyl, ffoniwch 01745 354 797, anfonwch e-bost at: enquiries.rhyl@gllm.ac.uk

neu ewch i wefan www.gllm.ac.uk