Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr Graddedig Wedi Cymryd Rhan mewn Cystadleuaeth Gelf Ryngwladol!

Cafodd Myfyriwr Gradd Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai ei rhoi ar restr fer ar gyfer Artist y Flwyddyn Bywyd Gwyllt Rhyngwladol 2021.

Cystadleuodd Jessica Mcgee, o Cwm-y-Glo ger Llanberis, yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd gan y David Shepherd Wildlife Foundation, fel rhan o fodiwl Diwydiant Creadigol ei rhaglen Gradd Sylfaen.

Sefydlwyd y Wildlife Foundation yn 1984 i helpu codi ymwybyddiaeth o rywogaethau mewn perygl. Mae darn dyfrliw Jessica, o'r enw "Ebony and Ivory", a gyflwynwyd i'r gystadleuaeth wedi ei ysbrydoli gan y rhinoseros mewn perygl, ac fe'i gwnaed mewn ymateb i'r nifer arswydus o rinos a botsiwyd dros y ddegawd ddiwethaf.

Bydd y Seremoni Wobrwyo Rithwir i gyhoeddi enillwyr y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar 25 Mai am 7pm, tra bydd Yr Arddangosfa Rithwir yn rhedeg hyd 29 Mehefin.

Dywedodd Jessica, "Mae'r prosiect mor bwysig i mi ac mae'n torri nghalon i feddwl am y genhedlaeth nesaf heb fod yn gwybod beth yw anifail neilltuol. Dw i isio siarad allan. Dw i isio helpu. Erbyn 2020, cofnodwyd bod 394 o rhinos wedi eu lladd, y rhif isaf ers 2012 ond o hyd yn rhy uchel. Gobeithiaf ddanfon neges gref drwy'r paentiad. Nid paentiad del ydy o i fod. Mae i fod i roi sioc i bobl. "

Ychwanegodd, "Mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael gan fy nhiwtoriaid wedi bod yn wych. Mae'r tiwtoriaid yn wych am fy ngwthio i greu'r gorau o fewn fy ngallu, ac mae fy nghyd fyfyrwyr yn y coleg bob amser yn fy annog a nghefnogi. Rydw i'n ddiolchgar iawn am y ddwy flynedd ddiwethaf a'r ansawdd ardderchog o addysgu a dderbyniais".

Medrwch ddarganfod mwy am y David Shepherd Wildlife Foundation, a'r Gystadleuaeth Rithwir yma.

Medrwch ddarganfod mwy am y Gradd Sylfaen (FDA) Celf a Dylunio ar gael yng Ngholeg Menai, yma.