Myfyrwyr y cwrs Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg yn cael cyngor arbenigol gan yr awdur, Cynan Jones
Coleg Llandrillo English Literature A Level students enjoyed a visit from award-winning author Cynan Jones.
"Gwefreiddiol", "ysbrydoledig" a "difyr" oedd rhai o'r geiriau a ddefnyddiwyd gan y criw i ddisgrifio'r profiad o wrando ar yr awdur Cymreig yn sôn am ei fywyd fel awdur.
Un o Aberaeron yw Cynan a ddiwedd mis Ionawr treuliodd ddiwrnod gyda'r myfyrwyr yn sôn am ei yrfa ac yn ateb cwestiynau. Wrth sôn am fanteision trafod ysgrifennu wyneb yn wyneb gyda myfyrwyr, dywedodd Cynan: "Mae'n rhoi cyfle i chi chwalu'r syniad sydd gan bobl fod ysgrifennu'n rhywbeth dirgel ac anodd. Wrth wneud hynny mae ysgrifennu'n dod yn haws."
"Rydw i wastad wedi gwybod ’mod i eisiau bod yn awdur ac mae clywed am ei brofiad proffesiynol wedi rhoi gobaith i mi y galla i wneud hynny," meddai Zarah, un o'r myfyrwyr.
Cafodd y dosbarth gynghorion arbenigol a gwybodaeth ddefnyddiol am y diwydiant ei hun a sut i ddatblygu a gwella fel ysgrifenwyr. Yn ôl y darlithydd Saesneg, Justin Griffiths-Bell, "rhannodd Cynan dechnegau ymarferol am bethau fel sut y gall un gair bach drawsnewid brawddeg, grym cynildeb, a phwysigrwydd ymddiried yn nychymyg y darllenydd. Cafodd y myfyrwyr eu hysbrydoli nid yn unig i ysgrifennu'n fwy pwrpasol, ond hefyd i ystyried yr angen i fod yn amwys neu'n awgrymog ac i saernïo’n ofalus er mwyn troi profiad yn ddarn creadigol."
“Dw i'n teimlo 'mod i'n deall yn well rŵan sut mae meddwl awdur yn gweithio," meddai Lois a oedd yn bresennol yn y digwyddiad.
Cafodd y myfyrwyr gyfle prin i glywed Cynan yn darllen o'i gasgliad newydd o straeon byrion, Pulse.
Mae ein siaradwyr gwadd yn rhan bwysig o'r cwricwlwm Safon Uwch yma yn y coleg. Rydym ni'n rhoi cyfleoedd i'r myfyrwyr siarad â gweithwyr proffesiynol ac i edrych ar ddewisiadau gyrfa gwahanol.
Rhoddodd Cynan hwb i sgiliau ysgrifennu straeon byrion y myfyrwyr. Meddai, "Gall gweld sut mae hanfodion y grefft yn gweithio a rhoi cynnig arni eu hunain eu helpu i ddeall prosesau mewn ffordd a fydd yn rhoi marciau uwch iddyn nhw."
Diolch yn fawr i Cynan am roi profiad mor werthfawr i'r myfyrwyr!
Mae holl gyrsiau Safon Uwch Grŵp Llandrillo Menai i'w gweld yma: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/a-levels
Os hoffech wybod rhagor am Cynan a'i waith ewch i: https://www.cynanjones.net/about