Myfyrwyr Sgiliau Bywyd a Gwaith Coleg Llandrillo yn codi arian ar gyfer elusen leol
Yn ddiweddar, aeth myfyrwyr Sgiliau Bywyd a Gwaith Coleg Llandrillo ar daith i gyflwyno arian yr oeddent wedi'i godi ar gyfer elusen leol - Crest - yn ystod eu marchnad Nadolig fis Rhagfyr diwethaf.
Gwerthodd y myfyrwyr mentrus grefftau a bwyd wedi'u gwneud â llaw ym marchnad Nadolig Coleg Llandrillo gan gasglu £212.50 ar gyfer Crest a rhoi rhywbeth yn ôl i'w cymuned leol.
Sefydlwyd Crest yn wreiddiol fel menter gymdeithasol ym 1998. Cofrestrwyd y grŵp yn Elusen Gofrestredig yn 2020 a chyda chyllid cychwynnol gan y loteri, bwriad Crest oedd sefydlu cwmni cydweithredol cymunedol i helpu pobl anabl a di-waith i ddatblygu eu sgiliau a chael gwaith. Heddiw, mae gan Crest bedair siop ledled Conwy a Sir Ddinbych ac mae'n gweithredu canolfan ailgylchu nwyddau trydanol a gwyn, gan helpu pobl dan anfantais sydd wedi cael eu heithrio'n gymdeithasol a'r rhai ag anableddau dysgu i ennill sgiliau bywyd, yn ogystal â phrofiad gwaith yn y byd go iawn, mewn amgylchedd cefnogol.
Cafodd y myfyrwyr groeso cynnes gan Crest wrth iddynt gyflwyno'r siec.
“Rydym eisiau dweud diolch yn fawr iawn i chi am eich holl waith caled ac am godi arian i Crest. Bydd o gymorth i lawer o bobl.” meddai Thomas Montgomery, Rheolwr Datblygu a Chydlynydd Marchnata Happitat yn Crest Co-operative.
Ychwanegodd Rod Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Crest: “Roedd yn hynod hael o'r myfyrwyr i godi arian ar gyfer Crest. Byddwn yn sicrhau bod yr arian hwn yn mynd yn syth i'n banc bwyd i gefnogi teuluoedd ac unigolion ledled gogledd Cymru sydd mewn perygl o dlodi bwyd a hylendid.”
Cafodd y myfyrwyr gyfle i fwynhau taith o amgylch hwb yr elusen yng Nghyffordd Llandudno, a gweld i ble byddai eu rhodd yn mynd a sut y bydd yn helpu eraill.
“Fe wnes i fwynhau mynd i weld Crest, a chlywed am yr ardd yno." meddai un o'r myfyrwyr.
Grym y gymuned
Dim ond dechrau'r bartneriaeth hon yw'r digwyddiad codi arian a'r ymweliad â Crest. Roedd y daith i ymweld â'r elusen a chwrdd â staff yn golygu bod Coleg Llandrillo wedi gallu cryfhau cysylltiadau â'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu. Ymhlith syniadau eraill, trafododd tiwtoriaid y posibilrwydd y byddai cynrychiolwyr o Crest yn mynychu dathliad diwedd blwyddyn y cwrs Sgiliau Bywyd a Gwaith i drafod llwybrau gyrfa posibl a chyfleoedd gyda rhaglen Lleoliad Gallu â Chymorth Crest gyda rhieni a myfyrwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am gynnig Sgiliau Bywyd a Gwaith Grŵp Llandrillo Menai, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/skills-for-life-and-work
Cewch ragor o wybodaeth am y gwaith y mae Crest yn ei wneud yma: https://www.crestcooperative.co.uk/contact-us/