Myfyriwr Celf Coleg yn Rhagori yn Rownd Derfynol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
Mae myfyriwr Celf a Dylunio o Goleg Llandrillo a ragorodd yng nghystadlaethau sirol yr Urdd, wedi taro'r aur yn rownd derfynol Cymru gyfan.
Enillodd Kayley Owen 18 oed o Lanrwst - sydd yn astudio ar y cwrs Celf a Dylunio Diploma Estynedig Lefel 3 ar gampws Llandrillo-yn-Rhos y coleg - yr aur yn y categori "Gemwaith" yn y rowndiau terfynol cenedlaethol.
Mae'r aur cenedlaethol yn ychwanegol i'w llwyddiant arbennig yng gystadlaethau’r sir, lle cafodd y lle cyntaf mewn pum categori: Gwaith Creadigol 2D; Ffotograffau wedi'u Haddasu, Ffotograffau Du a Gwyn; Argraffu, a Gemwaith.
Dywedodd Kayley: "Ar ôl fy ngwaith caled, rydw i'n falch iawn o'm llwyddiant." Mae'r cwrs yn wych, yn enwedig yr agweddau ymarferol, ac rwy'n hoffi gweithio efo cyfryngau cymysg orau. Pan ddaw'r cwrs i ben, mi fyddaf yn aros yng Ngholeg Llandrillo i ddilyn y cwrs Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio cyn mynd i brifysgol."
Dywedodd Liz Prosser - Dirprwy Reolwr y Maes Rhaglen Cyfrifiadura a'r Diwydiannau Creadigol: "Mae Kayley wedi gwneud yn wych. Enillodd yr hawl i arddangos ei sgiliau ar lefel genedlaethol wedi perfformiad arbennig ar lefel sirol. "
Mae'r rhaglen Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Celf a Dylunio yn rhoi i chi'r sgiliau a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i Addysg Uwch. Mae'r rhaglen yn addas i rai sydd wedi astudio cwrs Lefel 2 perthnasol neu wedi ennill graddau TGAU addas.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.
Web: www.gllm.ac.uk