Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Canmoliaeth Uchel gan Estyn i'r Staff sy'n Gyfrifol am Brentisiaethau

Mae staff arbenigol o bob cwr o ogledd Cymru wedi cael eu canmol mewn adroddiad arolygu diweddar gan Estyn ar y ddarpariaeth dysgu seiliedig a gynigir gan brif ddarparwr prentisiaethau'r rhanbarth.

Mae gan Gonsortiwm Grŵp Llandrillo Menai tua 2,800 o brentisiaid a dysgwyr seiliedig ar waith ac mae'n cynnwys Grŵp Llandrillo Menai, Hyfforddiant Arfon Dwyfor, Hyfforddiant Gogledd Cymru yn ogystal â phartneriaid arbenigol fel Cyflawni Mwy o Hyfforddiant, Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru, Tempdent a Sgil Cymru.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gyflawniadau, ymroddiad a chynnydd eithriadol prentisiaid, gan sefydlu'r consortiwm yn gadarn fel arloeswr yn y sector addysg.

Meddai Cairon Adair, Asesydd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Busnes@LlandrilloMenai,

“Roedd yn bleser bod yn rhan o'r arolygiad diweddar gan Estyn, ac mae'n braf iawn clywed yr adborth rhagorol sy'n rhan o'r adroddiad. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiadau dysgu penigamp i'n prentisiaid, ac edrychaf ymlaen at rannu canfyddiadau Estyn gyda'm cydweithwyr.”

Canmolodd Estyn y berthynas gref a gaiff ei meithrin rhwng y prentisiaid a'u tiwtoriaid a'u haseswyr gan ddweud bod y staff “yn gymwys iawn yn eu meysydd arbenigol a'u bod yn gwneud yn siŵr fod eu gwybodaeth a'u sgiliau yn gyfredol. Maen nhw'n gefnogol iawn o'u dysgwyr ac yn defnyddio eu profiadau eu hunain i feithrin sgiliau a dealltwriaeth alwedigaethol y dysgwyr”.

Yn ogystal, nododd yr adroddiad bod eu cydweithrediad â chyflogwyr yn gryfder unigryw, gan ddweud “mae'r consortiwm yn cynllunio ei ddarpariaeth yn dda i wasanaethu anghenion y rhanbarth. Mae'r prif ddarparwr yn gweithio'n dda gyda phartneriaid ac isgontractwyr i sicrhau cynnig cynhwysfawr sy'n adlewyrchu blaenoriaethau sgiliau rhanbarthol ynghyd ag anghenion cyflogwyr lleol ar draws ardal ddaearyddol eang”.

Ychwanegodd Louise Baxter sy'n Gynghorydd yn Hyfforddiant Gogledd Cymru:

“Roedd bod yn rhan o'r arolygiad diweddar gan Estyn yn brofiad cadarnhaol a defnyddiol. Rydw i'n falch bod yr adroddiad wedi tynnu sylw at safon uchel y gefnogaeth a roddwn i'n dysgwyr, hyblygrwydd ein dull gweithredu, a'n gwaith a'n hymgysylltiad â chyflogwyr a busnesau ar draws gogledd Cymru.”

Mae Estyn hefyd yn canmol y staff am “weithio'n hyblyg gan roi ystyriaeth i amgylchiadau'r dysgwyr gartref ac yn y gwaith”, ac am “holi'n rheolaidd am les [eu dysgwyr] mewn ffordd sy'n ystyrlon i bob dysgwr unigol”.

Esboniodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai a Chadeirydd y Consortiwm Dysgu Seiliedig ar Waith,

“Rydw i'n falch iawn o ganlyniadau adroddiad arolygu diweddar Estyn ar ein darpariaeth dysgu seiliedig ar waith, sy'n dysteb i waith caled ein staff. Rydym yn eithriadol o falch o'r berthynas gadarnhaol mae'r dysgwyr wedi gallu eu datblygu â'r tiwtoriaid, yr aseswyr a'r prentisiaid eraill gan fod hyn yn cyfrannu at eu hyder a'u ffydd yn eu gallu eu hunain.

“Mae'r adroddiad yn cydnabod y partneriaethau llwyddiannus rydym wedi gallu eu sefydlu â'n cyflogwyr. Dyna sydd wedi ei gwneud yn bosib i ni gynllunio'n effeithiol a rhoi rhaglenni ar waith sy'n bodloni'r galw lleol a rhanbarthol am sgiliau.

“Mae'r adroddiad hwn yn rhoi sêl bendith ar ein gwerthoedd, ein nodau a'n hymrwymiad i welliant parhaus, ac edrychwn ymlaen at wella ymhellach y profiadau dysgu a'r canlyniadau a gaiff ein dysgwyr. Llongyfarchiadau i staff ar draws y Consortiwm ar gael eu cydnabod am eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb.”