Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Mae eich busnes chi yn fusnes i ni: Dechreuwch ar yrfa ym maes Busnes a Rheoli

Ydych chi'n awyddus i ddilyn cwrs gradd ym maes Busnes a Rheoli? Does dim angen i chi edrych ymhellach! Mae Grŵp Llandrillo Menai ymhlith y sefydliadau sy'n cynnig y dewis mwyaf o gyrsiau gradd arbenigol a chyrsiau lefel prifysgol yng Nghymru.

Yn ystadegol, mae'r nifer sy'n astudio ar lefel prifysgol yn y Grŵp wedi cynyddu'n gyson bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 1,200 o fyfyrwyr Addysg Uwch yn astudio ar 50 o gyrsiau gradd gwahanol yn nhri choleg Grŵp Llandrillo Menai, sef Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor. Bob blwyddyn, mae 400 o fyfyrwyr yn derbyn eu graddau mewn seremoni arbennig a gynhelir yn Llandudno, a llawer o'r rhain yn cael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.

Cynigir y rhan fwyaf o'n cyrsiau gradd yn y Ganolfan Brifysgol, a gostiodd sawl miliwn i'w chodi, yn Llandrillo-yn-Rhos ac mae rhai rhaglenni hefyd ar gael ar ein campysau ym Mangor, Llangefni a Dolgellau. Golyga darpariaeth leol y Grŵp y gallwch ddilyn cwrs gradd ar garreg eich drws, gan arbed miloedd o bunnoedd a heb orfod symud i fynd i brifysgol.

Un sector sy'n ffynnu ar hyn o bryd yw'r sector Busnes a Rheoli. Mae'r Radd Sylfaen mewn Busnes a Rheoli yn rhaglen israddedig dwy flynedd, a chewch ddewis astudio am flwyddyn ychwanegol i gael gradd BA anrhydedd lawn mewn Busnes a Rheoli.

Mae'r rhaglen, a ddilysir gan Brifysgol Bangor, yn canolbwyntio ar feithrin ystod o sgiliau busnes a rheoli a fydd yn eich gwneud yn gymwys i weithio yn y byd busnes modern. Golyga hyn astudio pynciau busnes hanfodol fel cyfrifyddu a chyllid, marchnata, economeg a rheoli ym maes adnoddau dynol. Ond cewch hefyd gyfle i astudio materion a phynciau fel cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol, dadansoddi busnes a marchnata digidol.

Dywedodd Osian Jones, darlithydd ym maes Busnes a Rheoli yng Ngholeg Llandrillo: "Gall ein dysgwyr elwa o astudio'n lleol mewn dosbarthiadau llai sy'n galluogi ein tiwtoriaid i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad ardderchog. Mae'r cwrs hefyd yn canolbwyntio ar agweddau galwedigaethol busnes a rheoli, ac ar y cwrs byddwch yn astudio sefyllfaoedd busnes go iawn, yn clywed gan siaradwyr gwadd o leoliadau amrywiol ac yn gweithio ar nifer o achosion busnes cymhwysol."

Gall dewis y coleg o gyrsiau ym maes busnes a rheoli eich helpu i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel: rheolwr canol neu uwch a draws pob sector; rheolwr datblygu busnes; entrepreneur neu berchennog busnes; ymgynghorydd busnes neu ddadansoddwr busnes.

Mae un cyn-fyfyriwr yn awr yn ŵr blaenllaw ym maes manwerthu, ac wedi dod yn ôl i Goleg Llandrillo sawl tro i roi cyfres o ddosbarthiadau meistr i'r myfyrwyr busnes gan eu rhoi ar ben ffordd ynghylch sut i lwyddo yn y sector.

Dilynodd Darren Sinclair, sy'n rheolwr gyfarwyddwr i archfarchnadoedd Sainsbury’s, sawl cwrs Busnes ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos. Ar hyn o bryd mae'n goruchwylio Zone Central, ac mae 500 o archfarchnadoedd a siopau cyfleus Sainsbury's yn rhan o'i bortffolio ynghyd â Chanolfan Cyflenwi Ar-lein 185,000 troedfedd sgwâr yn Llundain a thua 45,000 o gydweithwyr.

Ar ei ymweliad diwethaf, dywedodd Darren: "Roedd yn bleser siarad â'r myfyrwyr ifanc. Roedden nhw'n awchus am wybodaeth a bydd hyn yn fanteisiol iddynt yn y dyfodol."