Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y Llysgenhadon Llesiant yn adeiladu mainc i'w rhoi i'r gymuned

Adeiladodd y myfyrwyr ddwy fainc yn y gweithdy gwaith coed yng Ngholeg Menai, un i’w rhoi i’r gymuned a'r llall i aros ar y campws

Adeiladodd Llysgenhadon Llesiant Coleg Menai fainc sydd wedi cael ei rhoi i Gyngor Cymuned Aberffraw.

Aeth Scarlet Lewis, Luke Owen Hughes a Thomos Evans ati i adeiladu dwy fainc o bren wedi'i ailgylchu a oedd yn weddill yn y gweithdy ar gampws Llangefni.

Mae un o'r meinciau bellach ym mynwent Aberffraw ac yn llecyn braf i fyfyrio ynddo, tra bod y llall i aros ar y campws.

Roedd Tom Coulthard, goruchwyliwr sgiliau ymarferol yn adran Adeiladu'r coleg, wedi torri'r pren a dylunio'r meinciau gan ddefnyddio proses fodelu 3D.

Yna mesurodd ac adeiladodd Scarlet, Luke a Thomos y fainc, gyda chymorth y Swyddog Gweithgareddau Llesiant, Naomi Grew.

Golyga’r prosiect fod y myfyrwyr wedi hel oriau gwirfoddoli ar gyfer eu hachrediad Llysgenhadon Llesiant.

Dywedodd y Swyddog Gweithgareddau Llesiant Naomi Grew: “Roedd Tom wedi torri’r pren ac wedi dylunio model 3D, felly roedd gennym ni syniad sut y dylai edrych.

“Yna treuliodd y Llysgenhadon Llesiant dair awr a hanner yn y gweithdy gwaith coed yng Ngholeg Menai yn adeiladu’r fainc.

“Roedd yn rhaid i ni fesur popeth, fel pa mor bell oedd angen i ni ddrilio, yna gwneud y drilio i gyd, gosod y sgriwiau, a staenio, sandio a naddu’r fainc.

“Yna daeth cadeirydd cyngor Aberffraw i’w chasglu, ac mae hi bellach ym mynwent y pentref.

“Roedd yn gyfle gwych i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ac roedden nhw’n amlwg wedi mwynhau’n arw.”

Nod y Rhaglen Llysgenhadon Llesiant yw datblygu arweinwyr y dyfodol, gan hybu pwysigrwydd iechyd a llesiant.

Mae'r Llysgenhadon Llesiant yn gweithredu fel llais y dysgwr dros lesiant yn y coleg a’r gymuned, gan hyrwyddo gwerth iechyd a llesiant cadarnhaol a chynyddu cyfleoedd cynhwysol i bawb allu cyfrannu.

Fel rhan o'r rhaglen, mae'r Llysgenhadon hefyd yn cwblhau oriau gwirfoddol yn y coleg ac yn y gymuned ehangach, a all gynnwys gweithio gyda chlybiau fel grwpiau ieuenctid a chlybiau chwaraeon.

Mae'r Llysgenhadon yn rhan o’r broses o gael syniadau am brosiectau ac yn rhan o Grŵp Llywio Llesiant y Dysgwyr. Maen nhw hefyd yn cael mynediad at hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol.

A hoffech chi ddod yn Llysgennad Llesiant? E-bostiwch lles@gllm.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.