Cyrsiau Prifysgol ar Garreg eich Drws!
Ydych chi'n barod am her newydd ar ôl y cyfnod clo? Efallai eich bod am newid gyrfa neu wella eich siawns o gael dyrchafiad? Ydych chi'n awyddus i ddilyn cwrs gradd, ond bod ymrwymiadau teuluol, neu'r costau a'r angen i deithio ymhell yn eich rhwystro? Does dim angen i chi edrych ymhellach! Mae Grŵp Llandrillo Menai ymhlith y sefydliadau sy'n cynnig y dewis mwyaf o gyrsiau gradd a chyrsiau lefel prifysgol yng Nghymru.
Mae llawer yn llawn dop yn barod, ond yn ôl yr uwch reolwyr, mae rhywfaint o le ar ôl, felly mae'n dal yn bosib dod o hyd i gwrs os cysylltwch â'ch coleg lleol.
Mae'r nifer sy'n astudio ar lefel prifysgol wedi cynyddu'n gyson bob blwyddyn. Heddiw, mae tua 1,200 o fyfyrwyr Addysg Uwch yn astudio ar 50 o gyrsiau gradd gwahanol – sydd wedi cael eu dilysu gan rai o brifysgolion gorau Cymru a Lloegr – yn nhri choleg Grŵp Llandrillo Menai: Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.
Mae Grŵp Llandrillo Menai'n parhau i ymestyn ei bortffolio o gyrsiau Addysg Uwch, yn annibynnol ac mewn partneriaeth â sefydliadau Addysg Uwch eraill. Yn ogystal â'r rhaglenni gradd anrhydedd a'r diplomau cenedlaethol uwch traddodiadol, mae'r coleg wedi bod yn flaenllaw wrth ddatblygu a hyrwyddo Graddau Sylfaen a chyrsiau galwedigaethol arloesol ac unigryw.
Cynigir y rhan fwyaf o'r cyrsiau gradd yn y Ganolfan Brifysgol, sy'n cynnwys yr holl offer angenrheidiol ac a gostiodd sawl miliwn i'w chodi, yn Llandrillo-yn-Rhos ac mae rhai rhaglenni lefel prifysgol ar gael hefyd ar ein campysau ym Mangor, Llangefni a Dolgellau. Mewn datblygiad diweddar cyffrous, mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ei gymeradwyo a'i ddilysu gan Brifysgol Bangor i gyflwyno cyrsiau lefel-prifysgol/addysg uwch ar ei gampws yn y Rhyl hefyd.
Mae llawer o'r cyrsiau a gynigir yn gymwysterau galwedigaethol a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â chyflogwyr er mwyn rhoi i'r dysgwyr y sgiliau a'r wybodaeth y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt ac er mwyn ei gwneud yn haws iddynt symud ymlaen i waith. Yn aml, mae'r cyrsiau llawn amser yn cael eu cyflwyno dros ddau ddiwrnod yr wythnos, gan helpu dysgwyr i gyfuno'u hastudiaethau â'u gwaith a'u hymrwymiadau teuluol.
Oherwydd cyfyngiadau Covid dros y ddau haf diwethaf, mae miloedd o raddedigion o bob cwr o'r Deyrnas Unedig wedi colli'r cyfle i ddathlu diwedd eu cyrsiau, ond yn ddiweddar cymerodd myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai ran mewn Seremoni Raddio Rithwir oedd yn dathlu cyflawniadau 800 o raddedigion 2020 a 2021.
Roedd gan un o'r graddedigion, Lucy Sharp, 21 oed o Ddolwyddelan ddau reswm i ddathlu: roedd hi nid yn unig wedi cael gradd BA (Anrh) mewn Cyfryngau Creadigol a Chyfryngau Darlledu, ond yn ystod y cwrs fe gafodd gyfle i dreulio ychydig wythnosau'n gweithio ar set y gyfres deledu 'I'm a Celebrity...Get Me Out of Here!’
Ymunwch â'r miloedd o fyfyrwyr gradd sydd wedi gwireddu eu gobeithion personol ac academaidd yng Ngrŵp Llandrillo Menai!