Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr Teithio a Thwristiaeth yn Dod i'r Brig mewn Cystadleuaeth Genedlaethol!

Mae Jenna O'Brien, sy'n astudio ar y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Menai, wedi ei choroni yn enillydd yn y Gwobrwyon 'Next Generation Tourism Cenedlaethol'.

Enillodd Jenna y wobr gyntaf yn ei chategori; Cyhoeddwyd Offer Digidol a Thechnoleg ar gyfer Twristiaeth Gynaliadwy yna fel enillydd cyffredinol yr holl Wobrau.

Nod y Gwobrau Next Generation Tourism yw helpu hybu a llywio dyfodol twristiaeth a sgiliau cynaliadwy o fewn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru.

Cyflwynwyd y Symposiwm a'r Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd yn rhithwir ar Ddydd Mercher, Mehefin 16, gyda 57 o bobl yn bresennol, gan Huw Stephens y BBC.

Dywedodd Jenna, "Dw i wedi gwirioni o fod wedi ennill! Mae fy nhiwtoriaid yn y coleg wedi bod yn wych, a fedrai ddim diolch digon iddynt am eu hanogaeth a'u cefnogaeth".

Dywedodd Sharon Jones, Arweinydd Rhaglen Teithio a Thwristiaeth, Lefel 3. "Rydym i gyd mor falch o Jenna. Mi wnaeth hi hyd yn oed ennill gwobr y flwyddyn ddiwethaf Cystadleuaeth y Next Tourism Generation hefyd!

Eleni gwnaeth ymdrech hyd yn oed yn fwy o ymdrech wrth baratoi i gystadlu, a oedd wrth gwrs yn fwy anodd oherwydd y cyfnod clo. Fodd bynnag, gweithiodd yn ddiflino ac roedd yn bleser mawr i fedru ei chefnogi drwy gydol y gystadleuaeth hon."