Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y cwrs DDE ar gyfer egin Actorion

Ydych chi'n awyddus i ddilyn cwrs gradd? Does dim angen i chi edrych ymhellach! Mae Grŵp Llandrillo Menai ymhlith y sefydliadau sy'n cynnig y dewis mwyaf o gyrsiau gradd a chyrsiau lefel prifysgol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae oddeutu 1,200 o fyfyrwyr Addysg Uwch yn astudio ar 50 o gyrsiau gradd yn nhri choleg y Grŵp, sef Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.

Cynigir y rhan fwyaf o'n cyrsiau gradd yn y Ganolfan Brifysgol, a gostiodd sawl miliwn i'w chodi, yn Llandrillo-yn-Rhos ac mae rhai rhaglenni hefyd ar gael ar ein campysau ym Mangor, Llangefni a Dolgellau. Golyga darpariaeth leol y Grŵp y gallwch ddilyn cwrs gradd ar garreg eich drws, gan arbed miloedd ac heb orfod symud i fynd i brifysgol.

Caiff llawer o'r cyrsiau eu datblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr er mwyn rhoi i'r dysgwyr y sgiliau a'r wybodaeth y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt ac er mwyn ei gwneud yn haws iddynt symud ymlaen i waith. Yn aml, cynhelir y cyrsiau llawn amser ddau ddiwrnod yr wythnos er mwyn helpu dysgwyr i gyfuno eu hastudiaethau â'u gwaith a'u hymrwymiadau teuluol.

Un sector y rhagwelir y bydd yn tyfu yn y dyfodol agos yw maes y celfyddydau perfformio, ac actio'n gyffredinol. Wrth gwrs, mae'r Covid-19 wedi effeithio ar y sector dros dro, ond o edrych i'r dyfodol, rhagwelir y bydd galw mawr am actorion pan fydd prosiectau ffilmio, theatrau ac amrywiol leoliadau'n cael ail-gydio mewn pethau.

Un nodyn cadarnhaol yw bod llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi'n ddiweddar ei bod yn rhoi £257m i gyllido theatrau, lleoliadau a sefydliadau ym maes y celfyddydau, gan roi hwb hollbwysig i ddiwydiant y celfyddydau perfformio,

Mae dros 1,300 o sefydliadau'n gobeithio elwa o hyn, yn cynnwys cwmni'r Birmingham Royal Ballet a'r Old Vic ym Mryste. Yr Old Vic ym Mryste, sy'n wynfyd i ddarpar actorion, yw'r theatr weithredol hynaf yn y byd Saesneg ei iaith, a chynigia brofiad gwaith i rai sydd â'u bryd ar fod yn actorion.

Meddai'r Ysgrifennydd Diwylliant, Oliver Dowden: "Mae'r cyllid hwn yn hwb hanfodol i theatrau, lleoliadau cerdd, amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol sy'n rhan greiddiol o'n gwlad. Bydd yn diogelu'r lleoedd arbennig yma, yn arbed swyddi ac yn helpu'r sector diwylliannol i gael ei gefn ato." Daw'r £257m cyntaf o'r Gronfa Adferiad Diwylliannol ehangach sy'n werth £1.57bn.*

Cynlluniwyd rhaglen y Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn Celfyddydau Perfformio (Actio) yn benodol i fyfyrwyr sy'n dymuno cael gyrfa ym maes actio. Mae ar gael ar gampws Llandrillo-yn-Rhos a gellir ei dilyn yn llawn amser neu'n rhan-amser dros un neu ddwy flynedd (a gellir ei hastudio fesul modiwl yn ogystal).

Mae'r cwrs yn ddilyniant academaidd naturiol i fyfyrwyr sydd wedi astudio pynciau Lefel A neu wedi ennill Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC. Byddant yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau technegau ymarferol uwch ac yn derbyn hyfforddiant proffesiynol sy’n canolbwyntio ar berfformio, mewn awyrgylch ysgol ddrama. Caiff y cwrs ei gyflwyno gan arbenigwyr ym maes actio, symud a llais, sydd â phrofiad o weithio yn y diwydiant, sy’n hyddysg â’r pwnc ac yn gyfarwydd â’r gweithiau amrywiol a berfformir heddiw.

Mae'n rhoi sylfaen gadarn i fyfyrwyr o ran meithrin dulliau actio, technegau perfformio, disgyblaeth annibynnol ac ymarfer proffesiynol. Y bwriad yw datblygu actorion amryddawn a'u paratoi at fynd i brifysgol, at ddilyn prentisiaeth neu at fynd i weithio'n syth yn y diwydiant.

Mae'r cwrs yn cynnig nifer o fodiwlau craidd sy'n ymwneud â datblygiad proffesiynol ac sy'n arbenigo ar feysydd fel Testunau Clasurol, Technegau Clyweliad, Actio o flaen Camera, Llais a Symudiadau.

Yn sgil cysylltiadau cryf â’r byd celfyddydol a chreadigol lleol, yn cynnwys theatrau, sefydliadau celf, ymarferwyr gwadd a gweithwyr proffesiynol, bydd llu o gyfleoedd i wneud gwaith ymarferol a phroffesiynol.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi i chi bopeth y mae arnoch ei angen i lwyddo yn y diwydiant. Bydd y grŵp yn gweithredu ac yn cael ei drin fel cwmni theatr proffesiynol a bydd yr aelodau'n dysgu ac yn meithrin sgiliau cydweithio'n greadigol, arwain, ymchwilio, gan lunio cysyniadau creadigol a'u rhoi ar waith.

Yn ddiweddar, lansiodd Grwp Llandrillo Menai a’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama bartneriaeth newydd a fydd yn cefnogi hyfforddiant yn y Celfyddydau Perfformio yng Ngogledd Cymru. Bydd y bartneriaeth yn cefnogi myfyrwyr a staff addysgu trwy ddarparu gweithdai a datblygiad proffesiynol.

Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am gyrsiau gradd neu unrhyw gyrsiau eraill yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ewch i'r wefan www.gllm.ac.uk/degrees, anfonwch neges e-bost at generalenquiries@gllm.ac.uk neu ffoniwch 01492 542 338.

*BBC News, 12/10/2020