Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Athletwr Ifanc o'r Coleg yn Ennill Ysgoloriaeth i Brifysgolion yn America

Mae athletwr 17 oed o Goleg Llandrillo, pencampwr Cymru dros 1500m ras ffos a pherth, ar fin gwireddu ei nod ym maes addysg wedi iddo dderbyn ysgoloriaeth a chynnig i astudio chwaraeon mewn prifysgolion yn UDA!

Llwyddodd Bryn Woodhall o Lanfairfechan i redeg 5km mewn 14 munud a 45 eiliad yn ystod ras diweddar, ac ennill cyfle i gael ysgoloriaeth i brifysgol gyda’r amser hwnnw!

Diolch i'r canlyniad arbennig hwnnw derbyniodd Bryn nifer o gynigion ar unwaith gan brifysgolion yng Ngogledd Orllewin America. Mae'n fyfyriwr ar ail flwyddyn y cwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos

Mae Bryn wedi hen arfer â llwyddiant. Yn ogystal ag ennill coron pencampwr Cymru dros ffos a pherth, daeth yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth Rasys Traws Gwlad Athletau Cymru cyn y cyfnod clo cyntaf ac ennill lle i gynrychioli Cymru yn Mini Marathon Llundain. Yn anffodus cafodd y ras honno ei gohirio oherwydd y pandemig. Mae hefyd wedi cynrychioli Cymru ym mhencampwriaethau Prydain ac Iwerddon a Stirling Cross-challenge, yn ogystal ag ennill lle i gystadlu ym Mhencampwriaeth Prydain ar y ras ffordd 3 milltir o hyd.

Meddai Bryn: "Roeddwn i wrth fy modd i orffen ras o fewn yr amser gofynnol i ennill ysgoloriaeth i brifysgol yn America. Byddaf yn astudio un ai ffisioleg chwaraeon neu chwaraeon a'r amgylchedd. Dydw i heb benderfynu'n iawn ble bydda i'n mynd ond mae hi'n braf cael mwy nag un dewis."

"Rydw i'n mwynhau fy nghwrs coleg yn arw, dw i wastad wedi teimlo'n angerddol dros yr awyr agored. Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau da ar y cwrs sy'n rhannu'r un diddordeb ym maes awyr agored hefyd."