Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prif Weinidog Cymru'n Agor y Ganolfan Beirianneg Newydd yn y Rhyl

Ddoe (dydd Mercher 21 Chwefror) cafodd Canolfan Beirianneg newydd Coleg Llandrillo ei hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Mae Canolfan Beirianneg y Rhyl yn gyfleuster tri llawr o’r radd flaenaf sy’n ymestyn dros 3000m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o'r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf. O roboteg a pheiriannau prototeipio cyflym i beiriannau torri metel diwydiannol a reolir gan gyfrifiaduron, mae'r ganolfan wedi'i chynllunio i ddarparu profiadau dysgu na ellir eu curo.

Bydd y datblygiad, a ariennir ar y cyd gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a Grŵp Llandrillo Menai, yn rhoi i drigolion yr ardal y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gyrfaoedd llewyrchus ym maes peirianneg, ac mae hyn yn cynnwys y diwydiant ynni adnewyddadwy.

Elfen allweddol o'r datblygiad trawsnewidiol hwn yw'r cyfleuster hyfforddi ym maes technoleg ynni adnewyddadwy, sy'n bartneriaeth ar y cyd â chwmni rhyngwladol RWE Renewables. Mae'r cwmni'n un o brif gynhyrchwyr ynni'r Deyrnas Unedig ac yn ogystal â rheoli deg o fferm gwynt ar y môr, mae wrthi'n datblygu naw arall. Nodwedd amlwg o'r ganolfan fydd neuadd i wasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt ar raddfa ddiwydiannol, sy'n brawf o'r ymrwymiad i arloesi a hyrwyddo addysg ym maes ynni adnewyddadwy.

Mae gan RWE berthynas hirsefydlog â'r coleg, ac mae'n cynnal ei raglen i brentisiaid ym maes ynni gwynt a'i hwb hyfforddi cenedlaethol i brentisiaid yno ers 2012. Mae'r hwb yn cefnogi prentisiaid o bob cwr o'r wlad, ac maent yn mynd ymlaen i swyddi da ar safleoedd ynni gwynt niferus y cwmni ar y tir a'r môr.

Dywedodd Tom Glover, Cadeirydd Cenedlaethol RWE yn y DU: “Bydd ynni adnewyddadwy yn creu miloedd o swyddi yn ystod y blynyddoedd nesaf, a bydd angen gweithwyr ar gyfer y sector ynni gwynt ar y tir a'r môr. Bydd gweithlu medrus yn hanfodol i gefnogi’r economi werdd sy'n datblygu a phrosiectau fel Fferm Wynt gyfagos RWE yn Awel y Môr, sef buddsoddiad mwyaf y ddegawd o bosib mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

“Ar ben hyn, mae'r bartneriaeth werthfawr hon gyda Choleg Llandrillo yn atgyfnerthu cysylltiad RWE â Chymru, lle mae gennym gynlluniau i ddatblygu ffermydd gwynt ar y tir fydd yn gallu cynhyrchu cyfanswm o 600MW. Ymhlith y rhain mae prosiectau Coedwig Alwen a Gaerwen. Bydd prentisiaid o’r coleg yn cael y cyfle i weithio ar brosiectau RWE ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt.”

Meddai'r Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu cyllid ar gyfer y Ganolfan Beirianneg newydd, gan y bydd yn helpu i roi’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar bobl leol i sicrhau bod Gogledd Cymru yn gallu bod yn gystadleuol mewn diwydiant sy'n tyfu.

“Mae gan Ogledd Cymru nid yn unig yr adnoddau ffisegol i gefnogi cyfleoedd economaidd cynaliadwy, ond mae ganddo hefyd weithlu sy'n llawn potensial. Mae ynni gwynt o'r môr yn hanfodol ar gyfer anghenion ynni hirdymor Cymru a’r Deyrnas Unedig ac mae’r coleg mewn sefyllfa gref i gyflwyno’r ystod eang o sgiliau sydd eu hangen ar ein diwydiannau ynni carbon isel.

“Bydd y cyfleusterau penigamp yn galluogi’r myfyrwyr a’r prentisiaid i ddefnyddio’r dechnoleg orau bosibl mewn amgylchedd cyfforddus a modern. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r staff a'r myfyrwyr ar gyfer y dyfodol.”

Mae'r Ganolfan Ragoriaeth ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl yn rhan o strategaeth gwerth £90m ehangach y Grŵp i foderneiddio ei gyfleusterau addysg a hyfforddiant, ac mae sefydlu Canolfannau Rhagoriaeth o safon uchel yn ganolog i'r strategaeth honno.

Meddai Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai,

"Pleser mawr yw agor y ganolfan nodedig hon, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â diwydiant. Bydd y pwyslais a roddir yma ar ynni adnewyddadwy yn amhrisiadwy i economi Cymru ac yn gatalydd gwirioneddol i'r economi yn y Rhyl. Cam mawr arall ymlaen at greu cyfleusterau hyfforddi o safon fyd-eang ar draws Gogledd Cymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Peirianneg sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ewch i gllm.ac.uk/cy/engineering