Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Derbynyddion poblogaidd Coleg y Rhyl yn mynd ar drywydd anturiaethau newydd

Mae dwy boblogaidd iawn fu'n gweithio fel derbynyddion yng Ngholeg y Rhyl - wnaeth ddechrau eu swyddi wythnos ar ôl ei gilydd bron i 20 mlynedd yn ôl - wedi dweud ffarwel wrth staff a myfyrwyr yn ddiweddar, cyn symud ymlaen i'w pennod nesaf.

Mae Margaret Kennedy a Val Wright wedi gweithio yng nghampws y Rhyl Coleg Llandrillo am 18.5 mlynedd. Bydd colled enfawr ar ôl y ddwy hwyliog a llawen gan holl gymuned Coleg y Rhyl.

Mae Margaret yn symud i'r Alban i fod yn agosach at ei theulu, tra bydd Val yn ymddeol gyda'i gŵr Steve, a oedd yn ofalwr yng Ngholeg y Rhyl yn ddiweddar, yn dilyn gweithio yn nifer o gampysau Grŵp Llandrillo Menai dros gyfnod o 12 mlynedd.

Dywedodd Margaret: "Hoffwn ddiolch i bawb rydw i wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd, yn ddiweddar ac yn y gorffennol. Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod yma yn fawr ac wedi gwneud llu o ffrindiau y byddaf yn parhau i gadw mewn cysylltiad â nhw. Er fy mod i'n dychwelyd i'r Alban, bydd Cymru yn ail gartref i mi am byth... Hwyl fawr!"

Mae Val yn edrych ymlaen at deithio (pan fydd cyfyngiadau'n caniatáu) ac mae wedi trefnu gwyliau i Japan fis Mawrth nesaf. Dywedodd: "Hoffwn ddiolch i fy nghydweithwyr a ffrindiau presennol a gorffennol am yr holl atgofion hapus fydd gen i."


www.gllm.ac.uk