Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dros 800 o Fyfyrwyr yn Graddio... mewn Seremoni Rithwir!

Heddiw, cymerodd dros 800 o fyfyrwyr lefel gradd o bob rhan o Ogledd Cymru ran mewn seremoni raddio rithwir gan gael cyfle i raddio'n ffurfiol a dathlu'u llwyddiannau er gwaethaf cyfyngiadau'r pandemig.

Heddiw, cymerodd dros 800 o fyfyrwyr lefel gradd o bob rhan o Ogledd Cymru ran mewn seremoni raddio rithwir gan gael cyfle i raddio'n ffurfiol a dathlu'u llwyddiannau er gwaethaf cyfyngiadau'r pandemig.

Eleni, er na allodd rheolwyr, tiwtoriaid a staff cefnogi Grŵp Llandrillo Menai ddathlu gyda'u graddedigion yn y ffordd arferol mewn seremoni ysblennydd yn Llandudno o flaen teulu a ffrindiau, fe wnaethon nhw'n dal anelu at roi'r Seremoni Raddio orau bosibl i bron i fil o fyfyrwyr... o gyfforddusrwydd a diogelwch eu cartrefi.

Yn y seremoni, a gafodd ei ffilmio a'i golygu gan gwmni proffesiynol sydd wedi ennill gwobrau, dathlwyd llwyddiannau cannoedd o fyfyrwyr cyrsiau Gradd Anrhydedd, Gradd Sylfaen, HNC ac Ôl-radd o dri choleg Grŵp Llandrillo Menai – Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor Cafodd holl raddedigion 2021 eu henwi'n unigol yn ystod y seremoni, ynghyd â graddedigion o'r seremoni a gafodd ei gohirio'r llynedd.

Oherwydd y cyfyngiadau amlwg, eleni fe greodd y Grŵp wefan bwrpasol ar gyfer y Seremoni Raddio i ychwanegu ychydig o hwyl i'r digwyddiad. Roedd hyn yn cynnwys cyfleoedd i'r graddedigion ennill gwobrau fel cacennau i'w rhannu gyda'u teulu a'u ffrindiau yn ystod y seremoni, i logi gwisg academaidd gan y cyflenwyr arferol, i rannu eu profiadau o astudio yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ac i osod hunluniau ar 'Wal Enwogrwydd' y wefan. Wrth dynnu hunluniau, roedd hyd yn oed yn bosibl i'r myfyrwyr ddefnyddio Instagram i roi cap graddio ar eu pennau!

Mae'r nifer sy'n astudio ar lefel prifysgol wedi cynyddu'n gyson bob blwyddyn. Heddiw, mae gan y Grŵp tua 1,200 o fyfyrwyr Addysg Uwch yn astudio ar 50 o lwybrau gradd gwahanol, gyda dros 400 o fyfyrwyr yn graddio pob blwyddyn, nifer gydag anrhydedd dosbarth cyntaf.

Wrth gyfarch y graddedigion, dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Mae cael cymhwyster Addysg Uwch yn garreg filltir bwysig yn eich bywydau ac yn un y byddwch yn ei chofio am byth. Cymerwch amser i fwynhau'r foment hon, oherwydd rydym ni'r staff yn gwybod am yr ymdrech a'r pwysau y mae astudio ar y lefel hon yn ei olygu. Heddiw rydych chi'n destun balchder mawr i'ch teuluoedd, eich ffrindiau a'ch cyflogwyr."

Mae gan un o'r graddedigion, a ddechreuodd weithio'n rhan amser yn McDonald's ar ôl gadael yr ysgol ac sy'n awr yn gweithio ym maes rheoli ystadau ac asedau, ddau achos i ddathlu: ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ac ymuno â'i wraig fel myfyriwr graddedig, wedi iddi hi raddio o Goleg Llandrillo ddwy flynedd yn ôl.

Dyfarnwyd gradd BSc (Anrh) mewn Rheoli ym maes Adeiladu i Colin James-Davies o Abergele ar ôl iddo gwblhau ei astudiaethau'n llwyddiannus ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Dechreuodd weithio yn y bwyty bwyd cyflym yn syth ar ôl gadael yr ysgol. Gweithiodd ei hun i fyny i fod yn rheolwr cyn gadael i ddechrau ar yrfa newydd mewn Asiantaeth Eiddo er mwyn cael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Ar ôl sawl blynedd yn y maes hwn, penderfynodd ddychwelyd i addysg gan gyfuno'i swydd â chwrs rhan-amser er mwyn gwella ei gyfleoedd gyrfaol.

Ar ddiwedd ei ail flwyddyn yn y coleg, cafodd swydd fel Rheolwr Prosiectau gyda thîm eiddo Cyngor Sir Conwy. Yna cymerodd flwyddyn allan i ganolbwyntio ar ei swydd newydd cyn dychwelyd i Goleg Llandrillo'r flwyddyn ganlynol. Yna... digwyddodd y pandemig. Fel yr esboniodd Colin:

"Pan ddechreuodd y pandemig yn 2020, ro'n i'n aros i fynd 'nôl i'r coleg i wneud fy nyddiau astudio, ac fel llawer o bobl eraill roedd yn rhaid i mi weithio o adref. Ar ddechrau'r cyfnod clo cyntaf hwn mi symudon ni i dŷ newydd, mi gawson ni gi bach a'n babi cyntaf! Ym mis Medi, mi ddychwelais i Goleg Llandrillo i ddechrau fy nhrydedd flwyddyn gan weithio o bell drwy gael darlithoedd ar Google Hangout.

"Drwy gydol fy nghyfnod yn astudio yng Ngholeg Llandrillo cefais gefnogaeth ardderchog gyda fy nyslecsia ac roedd gen i dîm arbennig o diwtoriaid. Roedd y dosbarthiadau bychan a'r gallu i astudio'n hyblyg o fantais fawr i mi. Roedd fy nhiwtoriaid ar gael bob amser a digon o adnoddau ar gael i'm helpu.

"Dilynodd fy ngwraig gwrs gradd yng Ngholeg Llandrillo hefyd gan astudio am ddwy noson yr wythnos, ac mae'r ddau ohonom yn llawn canmoliaeth i'r profiad. Dyma'r ateb delfrydol i unrhyw un sydd am astudio a gweithio ar yr un pryd.

"Yn ddiweddar dw i wedi symud i weithio gyda thîm arall yn y cyngor lleol, a newydd ddechrau ar swydd newydd fel Swyddog Technegol ym maes Rheoli Ystadau ac Asedau. Rhan o'm dyletswyddau ydi helpu i reoli eiddo'r awdurdod, ac mi ga i gyfle hefyd i weithio tuag at gymwysterau sydd wedi'u hachredu gan y diwydiant.

"Oni bai am diwtoriaid gwych Coleg Llandrillo a chefnogaeth arbennig fy ngwraig, fyddwn i ddim lle ydw i heddiw."

Graddiodd Eva Voma, 19 oed o Fangor, oddi ar y cwrs Peirianneg HNC ar gampws Coleg Menai yn Llangefni. Ar y cwrs bu i Eva feithrin sgiliau a gwybodaeth eang, gan ddysgu pob math o brosesau sy'n codi'n aml ym maes peirianneg. O ganlyniad, doedd hi ddim yn teimlo allan o'i dyfnder pan ddechreuodd ar ei gyrfa newydd yn y sector. Yn ddiweddar, cafodd swydd gyda ISC, cwmni rhyngwladol sy'n darparu offer diogelwch i weithio ar uchder.

Dywedodd Eva, “Mi wnes i gofrestru ar y cwrs i ddatblygu fy sgiliau a'm gwybodaeth. Dw i rŵan am barhau i ddysgu, ac yn barod i ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau yn y gweithle. Yn y pen draw hoffwn ganolbwyntio mwy ar y maes dylunio peirianneg. Mi wnaeth y coleg fy helpu'n arw gyda fy sgiliau Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD). Dw i'n hynod o falch am hyn oherwydd mae'n sgìl dw i'n gallu ei drosglwyddo ac mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi yn y gwaith.”

Cafodd William Prys-Jones o Gaernarfon Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Rheoli ym maes Twristiaeth. Yr hyn sy'n gwneud hyn yn fwy rhyfeddol yw ei fod wedi bod yn cyfuno'i astudiaethau eleni â'i swydd fel Llywydd Addysg Uwch Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai.

Cychwynnodd William ar ei daith academaidd drwy astudio cwrs Lefel 2 ym maes Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Menai. Wedi iddo gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus aeth ymlaen i astudio cwrs Lefel 3. Yna aeth i Goleg Llandrillo i wneud cymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 (Gradd Sylfaen) cyn ennill gradd BA (Anrh) Lefel 6 yn ddiweddar. Eleni hefyd cafodd ganmoliaeth yn y gystadleuaeth 'Next Tourism Generation'!

Graddiodd Hannah Jane Denyer o Brestatyn o'r cwrs BSc (Anrh) mewn Plismona ac Ymchwilio i Droseddau ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos. Daeth i'r coleg i ddechrau i wneud y cwrs BTEC dwy flynedd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, cyn mynd ymlaen i ddilyn y cwrs gradd mewn Plismona.

Dywedodd: "Dw i wedi gwir fwynhau fy nhair blynedd yn astudio am y radd. Erbyn hyn dw i'n Gwnstabl Arbennig gyda Heddlu Gogledd Cymru ac yn mwynhau'r profiad o ddysgu mwy am yr heddlu. Mae'r cwrs hwn wedi rhoi'r sylfaen orau i mi lwyddo yn fy ngyrfa yn y dyfodol ac mae fy nhiwtoriaid wedi fy arwain drwy'r holl broses. Mae cynnwys y cwrs yn wych, a chan fod y dosbarthiadau'n llai mae mwy o gyfleoedd i gael arweiniad. Dw i'n drist fod y tair blynedd wedi mynd heibio mor gyflym."

Mae gan Lucy Sharp, 21 oed o Ddolwyddelan ddau reswm i ddathlu: nid yn unig mae hi wedi cael gradd BA (Anrh) mewn Cyfryngau Creadigol a Chyfryngau Darlledu, ond yn ystod y cwrs fe gafodd gyfle i dreulio ychydig wythnosau'n gweithio ar set y gyfres deledu 'I'm a Celebrity...Get Me Out of Here!’

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n parhau i ymestyn ei bortffolio o gyrsiau Addysg Uwch, yn annibynnol ac mewn partneriaeth â sefydliadau Addysg Uwch eraill. Yn ogystal â'r rhaglenni gradd anrhydedd a'r diplomau cenedlaethol uwch traddodiadol, mae'r coleg wedi bod yn flaenllaw wrth ddatblygu a hyrwyddo Graddau Sylfaen a chyrsiau galwedigaethol arloesol ac unigryw.

Mae'r Ganolfan Brifysgol gwerth £4.5 miliwn ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos, a adeiladwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, yn darparu cyfleusterau addysgu a dysgu wedi eu teilwra i fyfyrwyr Addysg Uwch mewn un canolfan bwrpasol, yn hytrach nag mewn lleoliadau gwahanol ar draws y campysau.

I gael rhagor o wybodaeth am raddau neu gyrsiau Addysg Uwch sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: generalenquiries@gllm.ac.uk