Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn penodi READ Construction i adeiladu canolfan newydd ar gyfer y Gwyddorau Chwaraeon

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi penodi READ Construction, cwmni o Ogledd Cymru, i ddatblygu cyfleuster hyfforddi newydd sbon ar gyfer y Gwyddorau Chwaraeon ar gampws Coleg Menai yn Llangefni.

Mae'r prosiect, sy'n werth £6.3m, yn cynnwys neuadd chwaraeon newydd, campfa fawr, ystafelloedd newid, 7 ystafell ddysgu ar gyfer y Gwyddorau Chwaraeon, labordai Biometreg Chwaraeon, ystafelloedd staff a storfeydd.

Mae dyfarnu'r cytundeb yn garreg filltir arall i'r Grŵp sy'n parhau i wireddu ei raglen ddatblygu strategol sylweddol ar draws yr ystâd.

Meddai Aled Jones-Griffiths, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor: “Mae hyn yn gam mawr arall tuag at greu hwb addysg a hyfforddiant pwysig yn Llangefni. Yn dilyn y datblygiad hwn, byddwn wedi buddsoddi ymhell dros £40m yn y campws dros y 10 mlynedd diwethaf.

“Bydd y ganolfan chwaraeon newydd yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf ac offer ar gyfer monitro perfformiad athletig. Bydd yn adnodd digymar ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio pynciau ym maes Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus.”

Gwnaed y buddsoddiad yn bosibl yn sgil cefnogaeth gan Raglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Roedd datblygiad Ffordd Gyswllt Llangefni gan Gyngor Sir Ynys Môn hefyd yn ffactor mawr y tu ôl i benderfyniad Bwrdd Llywodraethu'r Grŵp i fuddsoddi cymaint yng nghampws Llangefni.

Bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn ym mis Medi eleni ac yn parhau hyd hydref 2022. Disgwylir i'r Ganolfan newydd fod ar agor ar gyfer myfyrwyr erbyn cychwyn 2023.

Meddai Richard Heaton, Rheolwr Gyfarwyddwr READ Construction: “Rydyn ni'n hynod falch o fod yn gweithio gyda GLLM ar y prosiect cyffrous hwn. Fel cwmni sydd â'n gwreiddiau yng Ngogledd Cymru, rydym yn ymroddedig i ailfuddsoddi o fewn yr economi lleol, cefnogi a chydweithio â chwmnïau lleol, datblygu sgiliau pobl leol a dod â buddiannau cymunedol trwy gydol y cytundeb. Edrychwn ymlaen at gryfhau ein perthynas gyda GLLM y tu hwnt i'r prosiect arloesol a strategol bwysig hwn.”

Meddai Wyn Thomas, Cyfarwyddwr Datblygiad Strategol: “Rydyn ni'n arbennig o falch fod cwmni o Ogledd Cymru, unwaith eto, wedi ennill cytundeb sylweddol trwy fframwaith caffael cystadleuol GLLM.

"Mae hyn yn golygu fod ein prosiectau datblygu yn parhau i gefnogi'r rhwydwaith o is-gontractwyr sydd wedi'u lleoli yma yn y rhanbarth, gan gryfhau'r economi rhanbarthol a diogelu a chreu swyddi lleol. Ac fel sy'n wir am ein holl ddatblygiadau, bydd y ganolfan Gwyddorau Chwaraeon newydd yn cydymffurfio â safon 'ardderchog' BREEAM o ran cynaliadwyedd."