Canolfan Gofal Anifeiliaid newydd yn plesio Llywodraethwyr a Myfyrwyr
Yn ddiweddar, fe gafodd Bwrdd Llywodraethwyr GLLM y cyfle i ymweld â datblygiad newydd ar safle Glynllifon.
Mae’r Ganolfan Anifeiliaid newydd yn ddatblygiad gwerth £3 miliwn fydd yn gartref i gyrsiau gofal anifeiliaid y coleg. Bydd y gwaith o symud yr holl anifeiliaid yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda myfyrwyr yn cychwyn eu hastudiaethau yno o fis Medi 2021 ymlaen.
Dywedodd Martin Jardine , Cyfarwyddwr Bwyd Amaeth Grŵp Llandrillo Menai:
“Mae gweld rhai o hen adeiladau amaethyddol stad Glynllifon yn cael eu hailwampio ar gyfer defnydd newydd fel hyn yn ddatblygiad cyffrous iawn. Mae’r adeiladau gwreiddiol yn dyddio’n ôl i’r 1850au, ac ychydig iawn o ddefnydd oedd wedi cael ei wneud ohonynt yn ystod y degawdau diwethaf
“Mae’r datblygiad hwn yn dangos ymroddiad Grŵp Llandrillo Menai i’r sector amaeth, ac yn arbennig i’r sector gofal anifeiliaid yma yn y gogledd orllewin. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol iawn, ac mi fydd o’n cynnig yr adnoddau a’r cyfarpar addysgu gorau posib i’n myfyrwyr.”
Ychwanegodd:
“Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau symud ein holl anifeiliaid bach i’r ganolfan newydd yn ystod yr wythnosau nesaf, yn barod i groesawu ein myfyrwyr yno ym mis Medi.”
Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai.
“Braint oedd cael croesawu ein Llywodraethwyr i ymweld â’r ganolfan Anfeiliad Bychain newydd yng Nglynllifon yn ddiweddar. Mae’r sector hwn, yn sector twf yn economi gogledd Cymru. Ein gobaith ydi, y bydd yn talu ar ei ganfed mewn swyddi a chyfleoedd yn ystod y degawdau nesaf.”
Ychwanegodd:
“Ein gobaith fydd cynnal seremoni i agor y ganolfan newydd yn ystod y tymor academaidd newydd. Yn ychwanegol mae un o brif prosiectau Bid Twf Gogledd Cymru wedi ei glustnodi ar gyfer Glynllifon, sef Hwb Economi Wledig werth £13m. Yn y tymor byr rydym fel Uwch Dim Rheoli wedi cymeradwyo cynllun gwerth £30,000 i ddatblygu Hostel Glanrafon ar safle Glynllifon. Mae’r datblygiadau hyn yn dangos ein hymroddiad i gampws Glynllifon yn sicr o osod Glynllifon fel un o brif golegau amaethyddol Cymru. Mae hi’n gyfnod cyffrous a dweud y lleiaf”
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ar safle Glynllifon, cliciwch YMA