Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llwyddiant Myfyrwyr Cerbyd Modur mewn Cystadleuaeth Genedlaethol

Mae tri phrentis talentog sy'n dilyn cyrsiau Cerbydau Modur ar gampws Coleg Llandrillo yn Y Rhyl wedi llwyddo i gyrraedd rownd genedlaethol cystadleuaeth sgiliau cerbydau modur ar ôl plesio beirniaid yn y profion rhanbarthol.

Bydd Marcus Robbins 17 oed o'r Rhyl, Harvey Mangnall 18 oed o Dywyn a Rhys Jones 19 oed o Drefnant, yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2020/2021 ac maen nhw un cam yn agosach at ennill gwobr Aur a choron talent newydd y diwydiant! Maen nhw'n fyfyrwyr llawn amser ar y cwrs ILM Lefel 2 mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn.

Gofynnwyd i'r cystadleuwyr rhanbarthol gyflawni 3 thasg yn y categori 'Technoleg Cerbydau Modur Ysgafn' er mwyn profi eu sgiliau yn y maes: canfod nam cychwyn modur, cynnal archwiliad ar gerbyd, a newid cadwyn amseru. Roedd pob tasg yn cael ei amseru ac roedd rhaid eu cwblhau o fewn 45 munud. Yn y rownd derfynol bydd gofyn i'r tri gynnal prawf diagnostig ar efelychydd modur ar-lein.

Oherwydd pandemig Covid-19, ac er mwyn cyd-fynd â chanllawiau a chyngor diogelwch diweddaraf y Llywodraeth, mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi addasu'r modd y cynhelir y cystadlaethau eleni. O ganlyniad i hyn, cynhaliwyd y cystadlaethau rhanbarthol i ganfod rhagoriaeth ym maes cerbydau modur o bell.

Yn ôl Eifion Griffiths, tiwtor y myfyrwyr: Mae'r ffaith bod y tri wedi llwyddo i ennill lle yn y rownd derfynol ar lefel genedlaethol yn brawf o'u hymrwymiad a'u hymroddiad. Maen nhw wedi cyflawni hyn er gwaetha'r holl anawsterau sydd wedi codi oherwydd Covid a'r cyfnodau clo. Maen nhw wedi gwneud yn arbennig o dda hyd yma ac rydym ni yma yn yr adran Cerbydau Modur yn y Rhyl yn falch iawn ohonyn nhw ac yn dymuno'n dda iddyn nhw yn y rownd derfynol.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Coleg Llandrillo ym maes Cerbydau Modur, ewch i: www.gllm.ac.uk/motor neu cysylltwch â'r coleg ar 01745 354 797.