Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

⁠Kathryn ar y Brig ym Maes Plastro!

Mae myfyriwr o adran adeiladu Coleg Llandrillo wedi'i henwi fel y myfyriwr plastro gorau yn y DU!

Cipiodd Kathryn Doyland o Abergele, a ddilynodd gwrs plastro ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos, y wobr mewn seremoni ddisglair yn Llundain.

Enillydd y wobr y llynedd oedd Natasha Williams o Goleg Llandrillo, a dyma'r ail wobr yn olynol i fyfyrwyr y coleg ddod i'r brig yn y gystadleuaeth arbennig hon.

Cynhelir y gystadleuaeth flynyddol gan The Worshipful Company of Plaisterers, a chaiff myfyrwyr ledled y DU gymryd rhan. Gwobr ‘Myfyriwr y Flwyddyn’ yw gwobr fwyaf nodedig y DU i fyfyrwyr plastro.

Ar ôl cwblhau'r cwrs byr 'DIY - Plastro', aeth Kathryn ymlaen i astudio 'Dilyniant mewn Plastro', ac mae hefyd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Gosodiadau Trydanol. Mae Kathryn bellach yn cael ei chyflogi gan y coleg fel Technegydd Adeiladu.

Ar ôl cyrraedd y rhestr fer yn wreiddiol, gwahoddwyd Kathryn a dau arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol i’r brifddinas ar gyfer y seremoni wobrwyo flynyddol. Roedd y noson yn cynnwys 11 o wobrau, ac enillodd Kathryn yr un mwyaf mawreddog: 'Myfyriwr y Flwyddyn'.

Cyhoeddwyd yr enillwyr o flaen cynulleidfa orlawn yn Plaisterers’ Hall, a chyflwynwyd y gwobrau gan yr Henadur Syr Charles Bowman o Swyddfa’r Arglwydd Faer. Mae’r gwobrau’n gydweithrediad rhwng FIS a The Worshipful Company of Plaisterers i gydnabod prentisiaid a myfyrwyr rhagorol ac unigolion a sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad parhaol i hyfforddiant a datblygiad ym maes plastro a chrefftau mewnol.

Eglurodd Kathryn,

“Clywais am wobr Myfyriwr y Flwyddyn am y tro cyntaf y llynedd pan enillodd Natasha. Eglurodd Rich - ein tiwtor - beth oedd y gwobrau bryd hynny - ond roeddwn i'n dal wedi fy synnu pan ddywedodd ei fod yn mynd i roi f'enw gerbron, mae'n dipyn o fraint”

Ychwanegodd,

“A dweud y gwir, doedd gen i ddim disgwyliadau uchel, fy ffordd i o feddwl oedd y bydden ni'n cael trip lawr i Lundain a phryd o fwyd blasus - felly roedd unrhyw beth arall yn fonws! Cefais fy synnu'n fawr o glywed fy enw yn cael ei alw fel enillydd y wobr.

“Roedd ennill yn brofiad swreal, a dw i'n hollol sicr bod fy llwyddiant yn adlewyrchiad o lefel yr ymrwymiad y mae Rich yn ei ddangos i’w fyfyrwyr.

“Mae'n gyfle gwych i gynrychioli’r Coleg a dangos sut mae'r coleg yn cefnogi merch arall (a dysgwr aeddfed) yn y diwydiant – a dw i'n gobeithio y bydd ond o fudd i’r coleg a’r diwydiant fel ei gilydd”.

Dywedodd eu tiwtor, Richard Jones, "Rydym yn hynod falch o Kathryn am gipio'r wobr hon eto dros Goleg Llandrillo.

“Gweithiodd Kathryn yn galed iawn yn ystod ei chyfnod yn y coleg, ac mae'n bleser cael gweithio ochr yn ochr â hi rŵan yn rhinwedd ei swydd newydd yn ein hadran ni."

Derbyniodd The Worshipful Company of Plaisterers ei Siarter Frenhinol cyntaf yn 1501, y cwmni yw'r 46fed yn nhrefn blaenoriaeth Cwmnïau Lifrai Dinas Llundain ac mae'n bodoli i annog rhagoriaeth ym mhob agwedd ar blastro.

Meddai Stephen Glibert, Meistr The Worshipful Company of Plaisterers, ar y noson:

“Mae’r Cwmni yn falch iawn o fod yn cynnal y gwobrau mawreddog hyn unwaith eto yn ein neuadd odidog. Eleni, mewn symudiad cyffrous ymlaen, rydym hefyd yn falch iawn o fod wedi ymuno â FIS i gydnabod cyflawniadau llawer o fewn y Sector Plastro a Gorffeniadau a Chrefftau Mewnol."

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Adeiladu yng Ngholeg Llandrillo, ewch i

neu ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.