Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwen yn treulio wythnos yn gweithio gyda chyfreithwyr yn Llundain

Dewiswyd Gwen Dafydd, sy’n astudio Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, o blith myfyrwyr ledled Cymru i gael profiad uniongyrchol o weithio yn y byd cyfreithiol

Mae Gwen Dafydd, myfyrwraig yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, yn edrych ymlaen at yrfa ym myd y gyfraith ar ôl treulio wythnos gyda chyfreithwyr yn Llundain.

⁠Mae Gwen, o Flaenau Ffestiniog, yn astudio Lefel A ar gampws Dolgellau.

Roedd hi’n un o 10 myfyriwr o bob rhan o Gymru a ddewiswyd gan Ymddiriedolaeth Addysgol Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund Davies (LEDLET) i gael profiad uniongyrchol o weithio yn y proffesiwn cyfreithiol.

Tra yn Llundain, bu Gwen yn dadlau o flaen barnwr a chwblhaodd leoliadau profiad gwaith gyda bargyfreithiwr a chyfreithiwr.

Dywedodd Gwen: “Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy newis gan gynllun LEDLET – cyfle i ddarpar fyfyrwyr y gyfraith weithio gyda gweithwyr cyfreithiol proffesiynol a dod i ddeall bywyd bob dydd o fewn proffesiwn y gyfraith.

“Bu’n rhaid i ni wneud gweithdy dadlau yn Gray’s Inn, ac yn ddiweddarach bu’n rhaid i ni gynnal dadl yn neuadd Gray’s Inn gyda’r Arglwyddes Ustus Nicola Davies yn beirniadu.

“Cawsom hefyd ddiwrnod profiad gwaith gyda chyfreithiwr. Cefais fy lleoli gyda Charlotte Scott, cyfreithiwr eiddo yn Bryan Cave Leighton Paisner (BCLP). Mae BCLP yn gwmni mawr sy'n delio ag achosion fel eiddo, gwasanaethau ariannol ac ymgyfreitha.

“Roedd yn ddiddorol iawn bod yn BCLP am ddiwrnod oherwydd rhoddodd Charlotte y cyfle i mi eistedd i mewn ar ei chyfarfodydd staff a chyfarfodydd gyda chleientiaid, a oedd yn help mawr i mi ddeall yr hyn yr oeddent yn gweithio tuag ato.

“Yn ddiweddarach, cawsom sgwrs yn y Llysoedd Barn Brenhinol gan yr Arglwydd Ustus Lewis, a siaradodd â ni am y math o achosion y mae wedi bod yn rhan ohonynt. I ddiweddu'r diwrnod, cawsom daith o amgylch Cymdeithas y Cyfreithwyr a oedd yn ddiddorol iawn.

“Yna cawsom ein diwrnod profiad gwaith gyda bargyfreithiwr. Cefais fy lleoli gyda Richard Smith, bargyfreithiwr anafiadau personol yn Crown Office Row. Mi wnes i fwynhau'r lleoliad hwn yn fawr oherwydd fe helpodd fi i ddeall mwy am achosion cyfraith sifil.

“Tra roeddwn i yno, treuliodd Richard amser yn dangos achos yr oedd wedi gweithio arno i mi, ac yna cefais gyfle i ddarllen y ffeiliau’n fanwl. Roedd hyn yn help mawr i mi ddeall trefn achosion anafiadau personol.

“Ar ôl ein lleoliadau, cawsom sgwrs gan nifer o fargyfreithwyr cyfraith teulu yn 29 Bedford Row.”

Mae LEDLET yn elusen annibynnol a sefydlwyd yn 2013 i wasanaethu pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru neu sydd â chysylltiad â Chymru sydd â diddordeb mewn ymuno â’r proffesiwn cyfreithiol.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn y gyfraith? Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod rhagor am gyrsiau ⁠AS/Lefel A Y Gyfraith ⁠a y Gyfraith Gymhwysol Lefel 3