Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

MEDAL AUR I KIERAN YN ROWND DERFYNOL Y GEMAU YSGOLION

Y penwythnos diwethaf, enillodd myfyriwr o Goleg Menai fedal aur yn rownd derfynol Gemau Ysgolion 2021.

Mae Kieran Jones yn dilyn y cwrs Hyfforddi ym maes Chwaraeon Lefel 3, a dydd Sadwrn 4 Medi roedd yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth Taflu Pwysau wrth Eistedd.

Cynhaliwyd rownd derfynol Gemau Ysgolion 2021 ym mhrifysgol Loughborough, lle'r oedd dros 1,300 o athletwyr ifanc yn cystadlu mewn deg camp wahanol.

Mae Kieran yn bara-athletwr llwyddiannus sydd wedi cystadlu mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau lleol a chenedlaethol.

Dechreuodd Keiran gymryd rhan mewn chwaraeon anabledd pan ddechreuodd ei fywyd newid yn 13 oed.

Mae'n dioddef o HSP (hereditary spastic paraplegia), sef cyflwr etifeddol prin sy'n achosi gwendid cynyddol yng nghyhyrau'r cluniau a'r coesau. Mae ei dad, a'i frawd Ryan, mewn cadeiriau olwyn hefyd.

Ond nid yw wedi gadael i'w anabledd gyfyngu ar ei botensial a'i lwyddiant mewn chwaraeon ac athletau. Kieran oedd pencampwr Prydain ym mhencampwriaethau'r Activity Alliance National Junior Athletics yn 2019, ac mae hefyd wedi cynrychioli Cymru droeon mewn cystadlaethau Pêl-fasged Cadair Olwyn.

Meddai Kieran, "Ges i benwythnos gwerth chweil yn y Gemau Ysgolion, a dw i wrth fy modd 'mod i wedi ennill medal aur!

"Dyma'r tro cyntaf i mi gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth athletau gan 'mod i fel arfer yn cymryd rhan mewn cystadlaethau Pêl-fasged Cadair Olwyn. Fedra i ddim aros rŵan i gymryd rhan mewn cystadlaethau eraill!"

Cewch ragor o wybodaeth am Rownd Derfynol Gemau Ysgolion 2021 yma.