Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Derbynnydd Cyntaf y Darian er cof am Gryffudd Rhun Jones wedi ei Enwi

Myfyriwr disglair o Adran Peirianneg Fodurol campws Coleg Menai yn Llangefni, yw'r cyntaf i dderbyn Tarian er cof am Gryffudd Rhun Jones.

Enwebwyd Gethin Owen, sydd yn Fecanic Cerbyd Prentis (Lefel 3) yng Ngholeg Menai, i dderbyn y Darian a gwobr o £100 am y cynnydd arbennig a ddangosodd eleni.

Mae'r Darian er cof am Rhun Jones, cyn-fyfyriwr ar gampws Coleg Menai yn Llangefni a fu farw mewn damwain car erchyll, fis Chwefror 2020. Mae ei rieni wedi penderfynu cyflwyno Tarian Gryffudd Rhun Jones er cof amdano am y deng mlynedd nesaf, ynghyd â gwobr ariannol o £100, i ddysgwr ymroddedig sy'n dilyn cyrsiau mewn Peirianneg Cerbydau Modur yng Ngholeg Menai.

Roedd Rhun yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai, ac fe gwblhaodd Brentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg Cerbydau Modur rhwng 2012 a 2015. Derbyniodd gefnogaeth gan ei gyflogwr Iolo Evans, Garej Glanafon, Abersoch i gwblhau'r rhaglen Brentisiaeth, a bu'n gweithio yno am gyfnod o saith mlynedd. Yn dilyn hynny, gweithiodd Rhun i gwmni North Wales Rally Services gyda'i ewythr, Robin.

Mae Gethin yn gweithio yn "Valley Motors" yn Fali, Ynys Môn. Mae yn barod wedi cyflawni a chwblhau yn ei astudiaethau galwedigaethol Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn drwy basio'r V.M.R. Tystysgrif dechnegol a'r cymhwyster Lefel 2 City & Guilds. Mae nawr yn gweithio tuag at gyflawni ac ennill y Dystysgrif dechnegol V.M.R. a'r cymhwyster Lefel 3 City & Guilds.

Dywedodd Arfon Roberts, Darlithydd Peirianneg yng Ngholeg Menai,

Mae Gethin yn ddysgwr medrus iawn, sydd wedi dangos diddordeb byw yn ei astudiaethau galwedigaethol yng Ngholeg Menai ers iddo ddechrau astudio yma gyda ni yn 2018."

"Mae wedi cynhyrchu gwaith o safon cyson uchel drwy gydol ei astudiaethau ar gyfer y cymwysterau Lefel 2 a 3 - fo ydy'r cyntaf bob amser i ateb cwestiwn yn y dosbarth ac mae'n dangos gwybodaeth dechnegol dda a chadarn. Mae'r agwedd ardderchog a ddangosir yn y coleg yn bendant i’w weld eto yn ei bortffolio NVQ o dystiolaeth a gynhyrchwyd yn ei weithle - Valley Motors. "

"Bydd ei bortffolio NVQ Lefel 2 a 3 hefyd yn cael ei fabwysiadu fel ffeil enghreifftiol i ddangos yr hyn sydd yn bosib ar gyfer mintai'r flwyddyn nesaf!"

Dywedodd Gethin, gan siarad wedi derbyn y Darian,

"Rwyf yn falch iawn o fod wedi erbyn y Darian er cof am Gryffudd Rhun Jones, a hoffwn fynegi fy niolchgarwch i rieni Rhun am y cyfle gwych hwn".

"Cefais amser gwych yng Ngholeg Menai, ac mae wedi fy helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth amser-llawn yn y diwydiant Peirianneg Fodurol"

Dywedodd Linda Jones, mam Rhun,

"Rydym yn ddyledus iawn i'r Coleg am y profiad a'r gefnogaeth a dderbyniodd Rhun yn ystod ei amser fel myfyriwr yma, a'i galluogodd ef i gyflawni ei freuddwyd o ddod yn fecanig o'r radd flaenaf."

"Llawer o ddiolch i bawb yn yr adran cerbydau modur. Roedd yn braf iawn i gyfarfod Gethin - llongyfarchiadau iddo a dymunwn y gorau iddo ar gyfer y dyfodol. Rydym yn falch o fedru symbylu a helpu myfyrwyr eraill i gyflawni eu nodau er cof am Rhun. "