Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Cyntaf o Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn Graddio fel Nyrsys

Yn dilyn partneriaeth arloesol rhwng Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB), mae'r grŵp cyntaf o Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd wedi cwblhau rhaglen Baglor mewn Nyrsio (BN) ac wedi cymhwyso fel nyrsys cofrestredig!

Cwblhaodd y grŵp gymhwyster Lefel 4 gofynnol yn y Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos, cyn mynd ymlaen ar secondiad i ddilyn y rhaglen BN rhan amser ym Mhrifysgol Bangor gyda chymorth eu cyflogwyr: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gwasanaethau gofal sylfaenol y GIG.

Mae'r rhaglen arbennig hon yn cydnabod gwaith y gweithlu gofal iechyd talentog yng Ngogledd Cymru ac yn cynnig llwybr datblygu gyrfa i unigolion sy'n weithwyr cymorth gofal iechyd gyda'r GIG.

Meddai Paul Flanagan, Rheolwr y Maes Rhaglen Iechyd a Gofal yng Ngholeg Llandrillo: "Rydym wrth ein boddau i gydnabod llwyddiant a chyflawniadau ein myfyrwyr. Ac o ystyried effaith Covid ar eu cyfnod astudio, mae llwyddiant y gweithwyr iechyd rheng flaen gyda'r GIG yn gwbl ryfeddol.

"Llongyfarchiadau mawr i bawb a diolch i bob aelod o staff BCUHB a Phrifysgol Bangor am gefnogi'r myfyrwyr gyda'u hastudiaethau. Rydym yn falch iawn o'r modd mae'r bartneriaeth strategol hon yn datblygu gweithlu ac yn gwella ansawdd ar gyfer ein bwrdd iechyd lleol."

Mae'r cyfle arloesol hwn i weithwyr cymorth iechyd gofal yng Ngogledd Cymru yn brawf o'r bartneriaeth gadarn, strategol a chlos rhwng y tri chorff. Bydd y fenter hon o fudd i'r gymuned leol ac yn cynnig llwybr gyrfa ychwanegol i unigolion sydd eisiau ymuno â'r byd nyrsio, ac mae hynny yn ei dro yn cefnogi darpariaeth gofal iechyd yng Ngogledd Cymru.

Cliciwch ar y ddolen isod i ddarllen y stori lawn ar wefan Prifysgol Bangor...

https://www.bangor.ac.uk/news/first-group-of-north-wales-healthcare-support-workers-graduate-as-nurses

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu unrhyw gyrsiau eraill yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y Coleg ar 01492 542 338.

E-bost: generalenquiries@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk