Ymestyn Cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. £1500 ar gael i TI!
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch iawn o gyhoeddi ei bod yn ymestyn cynllun yr Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd yn cychwyn yn y Brifysgol yn Medi 2021.
Ysgoloriaeth gwerth £500 y flwyddyn yw’r Ysgoloriaeth Cymhelliant.
Bydd yr Ysgoloriaeth Cymhelliant, gwerth £1,500 yn cael ei gynnig i BOB myfyriwr sy’n ymrwymo i astudio 40 credyd yn y Gymraeg mewn prifysgol yng Nghymru– ym mha bynnag bwnc y maent yn dymuno ei astudio
Wrth gwrs, rhaid i'r cwrs mae pob myfyriwr yn obeithio ei astudio fod ar wefan y Coleg Cymraeg wrth edrych drwy'r 'chwilotydd cwrs'.
Yn fwy penodol i fyfyrwyr fydd yn dechrau eu cwrs gradd eleni gyda Grŵp Llandrillo Menai, mae'r cyrsiau isod yn gymwys i dderbyn Ysgoloriaeth -
- BA/FdA Rheolaeth Busnes (Dolgellau)
- BA/FdA Iechyd a Gofal Cymdeithasol (CMD)
- FdSc Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored)) (CMD)
- BSc/FdSc Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon) (CLl)
Mae’r wybodaeth yma i’w weld ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol!
Mae cyfle i fyfyrwyr ymgeisio drwy ffurflen gais yn uniongyrchol ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Os hoffech ragor o wybodaeth, neu os hoffech help i lunio’r cais, cysylltwch â Swyddogion Cangen Llandrillo Menai ar:
Y cyntaf i'r felin fydd hi! Pob lwc!