Ffilm Cyn-fyfyriwr yn Rhan o Ŵyl Ffilm Ryngwladol
Bydd un o fyfyrwyr blaenorol Parc Menai yn dangos ei ffilm broffesiynol gyntaf am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caerdydd.
Dewiswyd ffilm Osian Roberts, 'Tryweryn', i ffurfio rhan o gategori 'Ffilmiau Cymru' yr ŵyl.
Bu Osian, o Lannerchymedd, yn astudio cwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai yn 2017-18. Yna aeth ymlaen i astudio BA Animeiddio ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, cyn mynd i Brifysgol Caerdydd i gwblhau ei radd Meistr mewn Animeiddio.
Mae 'Tryweryn' yn edrych ar hanes Capel Celyn, y pentref bychan yng ngogledd Cymru a foddwyd i greu cronfa ddŵr i ddarparu dŵr i ddinas Lerpwl.
Sefydlwyd Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caerdydd yn 2016, sy'n ddigwyddiad rhyngwladol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.
Mae'r Ŵyl yn gwahodd ceisiadau ac yn denu gwneuthurwyr ffilmiau o bob cwr o'r byd.
Mae noddwyr yr Ŵyl yn cynnwys yr actorion Hollywood Michael Sheen a Matthew Rhys, Marc Zicree sy'n ysgrifennwr a chynhyrchydd a'r actorion Bollywood Emraan Hashmi a Jaqueline Fernandez.
Dywedodd Osian,
"Rwy'n falch iawn ac yn llawn cyffro fod fy ffilm i wedi'i dewis ar gyfer yr ŵyl ffilm. Mae'r ffilm yn bwysig iawn i mi ac rwy'n gobeithio y bydd yn taflu goleuni ar y digwyddiadau yng Nghapel Celyn yr holl flynyddoedd yn ôl."
"Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi clywed y slogan 'Cofiwch Dryweryn' ond ddim yn hollol siŵr beth ddigwyddodd. Felly, wrth greu'r ffilm roeddwn i'n gobeithio cynyddu ymwybyddiaeth am Gapel Celyn a'i hanes."
Cynhelir yr Ŵyl Ffilm ar-lein eleni, oherwydd COVID-19.
Cewch ragor o wybodaeth am Ŵyl Ffilm Ryngwladol Caerdydd yma.