Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr Chweched Y Rhyl yn codi pac i weithio gyda diemyntau!

Mae cyn-fyfyriwr o Chweched Y Rhyl newydd orffen Doethuriaeth mewn diemyntau yn Imperial College, Llundain ac mae ar ei ffordd i Efrog Newydd a New Jersey i weithio mewn sefydliad sy'n cynnal ymchwil ym maes diemyntau!

Yn ôl yn 2016 roedd Daniel Jones, a fagwyd yn Y Rhyl yn un o'r 14 yn y DU i gael ei dderbyn i ddilyn cwrs doethuriaeth mewn Photo-ymoleuedd Diemyntau yn Imperial College, Llundain mewn cydweithrediad â 'The Diamond Science and Technology Centre for Doctoral Training', Prifysgol Warwick. Ar ôl cwblhau'r Ddoethuriaeth cyflwynwyd gradd Doethur mewn Athroniaeth i Daniel, y cymhwyster uchaf i fyfyriwr ac un sy'n rhoi'r hawl iddo ddefnyddio'r teitl Doethur.

Teitl ei draethawd oedd: 'Datblygid microsgop aml-ddimensynol a'i ddefnydd ym maes darlunio a sbectrosgopeg diffygion ymoleuol mewn diemyntau'. Mae ar fin hedfan draw i UDA i weithio i sefydliad ymchwil sydd â diddordeb mewn offeryniaeth ar gyfer diemyntau.

Daeth Daniel yn ôl i Goleg Y Rhyl yr wythnos hon i roi cyflwyniad i fyfyrwyr ar ei brofiadau yn Chweched y Rhyl, bywyd prifysgol, ei yrfa hyd yma a'i gariad newydd at ddiemwntau.

Roedd o'n un o'r criw cyntaf i ddilyn eu cyrsiau lefel A yn Chweched y Rhyl yn 2010 ar ôl cyfnod yn Rhyl High School. Dilynodd gyrsiau lefel A mewn Ffiseg, Cemeg a Mathemateg yn ogystal â Bagloriaeth Cymru ac As mewn Cemeg ac TGCh.

Wrth drafod ei gyfnod yn Chweched y Rhyl meddai: "Ces i brofiadau gwych yn ystod fy nwy flynedd yma. Mae Chweched y Rhyl yn lle cyfeillgar a braf, a faswn i ddim ble rydw i heddiw oni bai am gefnogaeth a dawn dysgu tiwtoriaid y coleg yma.

Yn dilyn ei gyfnod yn Chweched Y Rhyl aeth Daniel ymlaen i gwblhau cwrs Meistr cyfunol dros gyfnod o bedair blynedd yn Aberystwyth. Aeth ymlaen i ddilyn cwrs MSc ym Mhrifysgol Warwick am flwyddyn ac yna cwrs PhD dros gyfnod o dair blynedd yn Imperial College.

Dywedodd: "Mi wnes i gwblhau dau brosiect am ddiemwntau fel rhan o fy nghwrs prifysgol a dyna pryd dechreuais i wirioni arnynt. Unwaith y clywais i am y ganolfan ddoethuriaeth roeddwn i'n benderfynol o wneud cais i fynd yno er mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael yn y DU.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lefel A yn Chweched Y Rhyl, Coleg Llandrillo - ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl - cysylltwch â’r coleg ar: 01745 354 797.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: rhyladmissions@gllm.ac.uk