Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Craffu creadigol ar fywyd yn ystod cyfnodau clo

Mae myfyrwyr cyrsiau ysgrifennu creadigol yng Ngholeg Menai wedi rhyddhau llyfr ar y cyd yn myfyrio eu profiadau yn ystod y cyfnodau clo diweddar.

Mae'r llyfr, "Cyfansoddiadau'r Cyfnod Clo" yn cynnwys 25 darn a ysgrifennwyd gan fyfyrwyr rhan amser y cwrs Ysgrifennu Creadigol yn ystod y cyfnodau clo a chyfyngiadau caeth rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2020.

Rhoddant gip i ni ar fywydau'r awduron yn ystod y cyfnod bythgofiadwy hwn, a oedd yn teimlo'n ddiddiwedd, a thystiant i wytnwch a chadernid y natur ddynol a'r modd y goroesa hyd yn oed yn wyneb bygythiadau a pheryglon cudd a chyson.

Dywedodd Eabhan Ní Shuileabháin, tiwtor Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg Menai: Mae hi wedi bod yn fraint ac yn bleser crynhoi’r cyfansoddiadau yn y llyfryn hwn yn ogystal ag annog yr awduron a bod y cyntaf i ddarllen y gweithiau hyn. Yn sicr, gwnaethant fy nhaith drwy'r cyfnod clo yn un llawer mwy diddorol a phleserus! Mi wnewch chi fwynhau eu darllen rŵan i hel atgofion, ac efallai bydd y darnau yn eich atgoffa i wneud yn siŵr na fydd gofyn i ni wynebu cyfnod clo arall."

Gallwch ddarllen y llyfr yma.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg Menai cliciwch yma.