Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Celfyddydau Creadigol yn Creu Dwy Ffilm Fer Broffesiynol

Pob blwyddyn mae myfyrwyr yr Adrannau Celfyddydau Perfformio a'r Cyfryngau yng Ngholeg Menai yn cael cyfle cyffrous i weithio gyda chwmni cynhyrchu 'It's My Shout' i greu dwy ffilm fer.

Eleni, mae'r myfyrwyr wedi cael cyfle i weithio gyda Richard Harrington, seren y gyfres deledu 'Hinterland'. Bydd y ffilmiau y bu'r myfyrwyr yn gweithio arnynt yn ymddangos ar y BBC ac S4C.

Dywedodd Paul Edwards, Rheolwr Maes Rhaglen ym maes y Cyfryngau a'r Celfyddydau Perfformio:

"Mae hyn yn gyfle ardderchog i'n myfyrwyr weithio gyda phobl broffesiynol yn y diwydiant - o flaen y camera a thu ôl iddo! Bydd profiadau gwerthfawr fel hyn yn eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd gwych yn y diwydiant."

Mae nifer o'n cyn-fyfyrwyr sydd wedi bod yn rhan o brosiectau blaenorol gyda 'It's My Shout' wedi mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant gyda'r BBC, S4C, Netflix a nifer o gwmnïau cynhyrchu eraill.

Yn dilyn y gwaith o gynhyrchu'r ddwy ffilm, bydd y dysgwyr yn derbyn gwahoddiad i fynychu'r Premiere a'r Noson Wobrwyo yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i wylio'r ffilm orffenedig ar sgrin fawr ac yn cael cyfle i sgwrsio gydag enwogion a phobl broffesiynol yn y digwyddiad carped coch.

Mae nifer o gyn-fyfyrwyr wedi ennill gwobrau megis yr Actor Gorau, Actores Orau a'r Rhedwr Gorau yn y seremoni wobrwyo arbennig hon. Gobeithir y bydd y Premiere a'r Seremoni Wobrwyo yn digwydd fis Medi eleni.