Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llywydd dewr Undeb y Myfyrwyr yn eillio ei wallt dros elusen

Eilliodd llywydd dewr Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg Llandrillo ei wallt i gyd er mwyn ei roi i elusen sy'n darparu wigiau am ddim i blant sydd wedi colli eu gwallt eu hunain o ganlyniad i driniaethau canser a salwch eraill. Cododd cannoedd o bunnoedd dros ymchwil canser ar yr un pryd.

Cododd Luke Preston, 19 oed o Fae Colwyn £250 dros elusen y grŵp eleni, sef Ymchwil Canser Cymru, ac fe gyfrannodd ei wallt i Ymddiriedolaeth Y Dywysoges Fach.

Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal y digwyddiad yn salon trin gwallt Coleg Llandrillo yn ystod wythnos elusennol Undeb y Myfyrwyr, fis Rhagfyr y llynedd. Aildrefnwyd y digwydd ar gyfer mis Ionawr ond cafodd ei ohirio eto. Penderfynodd Luke eillio ei wallt ei hun gartref oherwydd roedd yn awyddus i gyfrannu ei wallt a chodi arian angenrheidiol dros ymchwil canser.

Dywedodd Luke wedi iddo eillio ei ben: "Roedd penderfynu eillio ar ôl tyfu fy ngwallt dros gyfnod o ddwy flynedd yn benderfyniad mawr ond dw i'n teimlo'n wych rŵan. "Mae'n wych fy mod yn gallu cefnogi dwy elusen drwy dorri fy ngwallt. Rydw i'n falch iawn fy mod i wedi codi tua £250 dros elusen Ymchwil Canser Cymru, elusen swyddogol y myfyrwyr am y flwyddyn 2020/2021. Rydw i'n ddiolchgar iawn i bawb am eu cyfraniadau."

Mae Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn holi myfyrwyr bob blwyddyn i ganfod pa elusennau sy'n bwysig iddyn nhw. MAe'r undeb yn llunio rhestr fer ac mae'r myfyrwyr yn pleidleisio i ddewis elusen y flwyddyn honno. Dewisodd myfyrwyr yr elusen 'Ymchwil Canser Cymru' i fod yn elusen swyddogol ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/2021.

Mae Ymddiriedolaeth y Dywysoges Fach yn elusen sy'n darparu wigiau am ddim i blant ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon sydd wedi colli eu gwallt yn sgil clefydau megis canser ac alopesia. Gall wigiau gostio cannoedd o bunnoedd yr un i'r elusen, felly bydd croeso mawr i rodd Luke. Mae'r ymddiriedolaeth hefyd yn ariannu ymchwil i ganser mewn plant.

Dolen i'r gyfrannu: https://www.justgiving.com/fundraising/Luke-Preston