Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Lletygarwch y Coleg yn holi seren y rhaglen deledu 'First Dates'

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr o Adran Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Llandrillo gyfle i gael cynghorion am y proffesiwn gan Fred Sirieix, maître d'hôtel bwytai seren Michelin a seren y cyfresi teledu poblogaidd 'First Dates', 'Million Pound Menu', 'Remarkable Places to Eat' a llwyddiant diweddar ITV, 'Gordon, Gino and Fred: Road Trip'.

Cafodd y myfyrwyr gyfle i holi eu cwestiynau llosg wrth Fred yn ystod sgwrs rithiol gydag ef am awr. Roedd y pynciau'n cynnwys y gwahanol rolau a heriau yn y diwydiant lletygarwch, cyngor ynghylch pa drywydd gyrfa i'w dilyn a'i yrfa newydd sy'n datblygu yn y diwydiant adloniant.

Dywedodd Brian Hansen, cydlynydd cwrs Lefel 2 Lletygarwch ac Arlwyo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos y coleg: "Roeddem ni am i'n myfyrwyr gael profiad dysgu cyfoethog wrth ddysgu ar-lein adref yn ystod y cyfnod clo diweddar, felly roedd yn gyfle rhagorol iddyn nhw glywed profiadau bywyd un ar y brig yn y byd yn y proffesiwn a chael y cyfle i holi Fred yn uniongyrchol.

"Mae'r coleg wedi ymrwymo i drawsnewid bywydau ei holl fyfyrwyr a'n nod yw sicrhau darpariaeth o'r radd flaenaf, felly roeddem ni'n ddiolchgar iawn i Fred am roi o'i amser i gymell ac ysbrydoli ein dysgwyr ni."

Fred yw'r diweddaraf o blith siaradwyr gwadd y trefnodd adran Lletygarwch ac Arlwyo'r coleg iddyn nhw sgwrsio gyda'r myfyrwyr yn ystod yn pandemig. Maen nhw wedi cael cyfle i drafod gyda'r cogydd enwog a chyn-fyfyriwr Coleg Llandrillo, Bryn Williams, seren y rhaglen 'Great British Menu', David Kelman a chyn-fyfyriwr arall, Nick Rudge, sy'n gweithio ochr yn ochr â'r cogydd chwedlonol Heston Blumenthal yn ei fwyty enwog, 'The Fat Duck'.

Maes rhaglen Lletygarwch ac Arlwyo'r coleg yw’r unig un yng Nghymru sy’n darparu cyrsiau llawn amser a rhan-amser, o Lefel 1 hyd at Raddau Anrhydedd, mewn Celfyddydau Coginio a Rheoli ym maes Lletygarwch. Mae hefyd yn darparu prentisiaethau, cymwysterau NVQ a hyfforddiant wedi'i deilwra i rai sy’n gweithio yn y diwydiant. Mae'r rhaglenni arbenigol hyn yn cyflwyno arbenigedd i ddysgwyr, cymhwyster cydnabyddedig a'r cyfle i fynd i sefydliadau sy'n arloesi yn y maes coginio a gastronomeg.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Llandrillo ym mis Medi, ewch i www.gllm.ac.uk neu ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk