Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tiwtor y Coleg yn Cipio Gwobr y Deyrnas Unedig "Grads in Games"

Mae tiwtor Datblygu Gemau yng Ngholeg Llandrillo sydd wedi ennill BAFTA wedi derbyn "Gwobr Academaidd Addysg Bellach" o fri eleni gan gwmni diwydiant gemau rhyngwladol ar gyfer ei fentrau arloesol ym myd datblygu gemau a chyfrifiaduro.

Mae'r wobr genedlaethol yn tynnu sylw at ddarlithwyr, arweinwyr cwrs ac academyddion (ar hyn o bryd yn addysgu ar lefel Addysg Bellach) sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu myfyrwyr dros y 12 mis diwethaf. Dyna'r academyddion sydd yn mynd yn mynd y tu hwnt i'r darlithoedd yn unig, yn aml yn fentoriaid myfyrwyr ardderchog, yn trefnu digwyddiadau a siaradwyr o fyd diwydiant, a medrant ddangos canlyniadau llesol pellgyrhaeddol eu gwaith.

Roedd y tri terfynwr a oedd yn ymgiprys ar y wobr "Grads in Games" yn athrawon yn rhai o'r colegau gorau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Datblygu Gemau: Jordan Hogan - Access Creative College; Paul McGovern - South West College, ac yn olaf ond nid lleiaf, Rob Griffiths yng Ngholeg Llandrillo. Mae hyn yn wobr diwydiant, wedi ei gyflwyno gan Aardvark Swift - recriwtiwr byd-eang blaenllaw ar gyfer gemau fideo a diwydiannau cysylltiedig (Mae "Grads in Games" yn fenter i raddedigion ac yn un o freichiau hyrwyddol y cwmni).

Mae gwobr bersonol Rob yn dilyn yn dynn ar sodlau Coleg Llandrillo yn ennill "The Grads in Games Educational Institution" yr hydref diwethaf. Mae'r wobr yn agored i holl golegau'r Deyrnas Unedig ac yn tynnu sylw at y sefydliadau hynny ar lefel Addysg Bellach sydd wedi dangos effaith gadarnhaol ar eu myfyrwyr dros y flwyddyn flaenorol. Dyma'r colegau sydd yn gwneud y mwyaf i helpu myfyrwyr, gan roi iddynt y cyfleoedd gorau i raddio i addysg Uwch neu ddilyn rôl yn y diwydiant gemau.

Safodd Rob ei lefel A yn Ysgol y Creuddyn ym Mae Penrhyn cyn mynd ymlaen i astudio ar gyfer gradd tair blynedd mewn Datblygu Gemau. Wedi gadael y brifysgol, cafodd Rob ei swydd gyntaf gyda Sony, gan weithio ar y gem-mega a fu’n llwyddiant ysgubol yn fasnachol yn y diwydiant - Minecraft. O fewn pythefnos i ddechrau gwaith gyda Sony, cynigiwyd lle i Rob yn TT Games. O fewn ychydig fisoedd, aeth o swydd sicrhau ansawdd i fod yn ddyluniwr gemau ar gemau a enillodd wobrau lu fel Lego Batman a Lego Star Wars i enwi ond ychydig!

Bu Rob, dylunydd gemau a enillodd BAFTA, y mae ei greadigaethau wedi gwerthu yn eu miliynau, yn darlithio yng Nghampws Llandrillo-yn-Rhos Coleg Llandrillo ers 2017. Mae nawr yn arwain yr adran ac yn defnyddio ei gysylltiadau diwydiant ei hun i sicrhau fod ei fyfyrwyr yn elwa ac yn cyrraedd eu potensial llawn.

Gan gyhoeddi'r enillydd, dywedodd llefarydd ar gyfer y cwmni: "Teimlaf iddo fynd yr ail filltir - yn enwedig yn ystod yr amgylchiadau covid cyfredol - i sicrhau fod ei holl fyfyrwyr yn cyrraedd eu potensial llawn, gan gymryd yr amser i fonitro ac amddiffyn eu lles.

"Mae Rob yn enghraifft wych o sut y gall academyddion gydweithredu yn effeithiol gyda diwydiant, a'i fyfyrwyr sydd wir yn elwa. Mae'r wobr yn gwbl haeddiannol ac rydym am ei longyfarch yn galonnog."

Roedd Rob, sy'n byw yn Hen Golwyn ond yn wreiddiol o Landrillo-yn-Rhos, yn rhan o'r tîm dylunio a gipiodd wobr BAFTA, "Gem Gorau Plant 2016" ar gyfer Lego Dimensions. Yn ystod ei adeg yn TT Games, bu Rob hefyd yn gysylltiedig gyda chreu Lego Star Wars- The Force Awakens; The Lego Ninjago Movie Game; Lego Dimension - Blynyddoedd 1 a 2; Lego Batman ac Avengers Lego Marvel!

Dywedodd Rob: "Fy nodau yw ysbrydoli'r myfyrwyr ac i hybu'r diwydiant gemau o fewn Cymru. Yn ystod yr amser cymharol fyr y bum yn y coleg, cefais argraff dda iawn o'r myfyrwyr a'u syniadau arloesol ar gyfer datblygu gemau **

Cafodd adran Datblygu Gemau Coleg Llandrillo rai blynyddoedd anhygoel, wedi sicrhau partneriaethau gyda rhai o frandiau electroneg a gemau mwyaf llwyddiannus y byd.

Cyhoeddodd yn ddiweddar y cafodd ei gofrestru fel datblygwyr Xbox a Nintendo, o bosib y coleg neu brifysgol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hyn! Yn dilyn hyn, mae nawr yn rhan o raglen academaidd byd-eang Sony Interactive Entertainment - PlayStation®First. Wedi ei redeg gan Sony Interactive Entertainment (SIEE), mae'n darparu mynediad offer caledwedd a meddalwedd proffesiynol ar gyfer staff a myfyrwyr.

Mae hyn yn golygu fod myfyrwyr yn cael defnyddio'r un meddalwedd y mae stiwdios gemau o gwmpas y byd yn eu defnyddio, gan eu galluogi i greu gemau arloesol ar PlayStation... yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain!

Mae Coleg Llandrillo wedi dangos ei fod yn datblygu ei ymarfer i addysgu'r cynnwys mwyaf diweddar posib yn barhaus gan fod yn ymwybodol o’r newidiadau yn y diwydiant gemau. Daeth yn hyb Tranzfuser ac mae hefyd yn ddiweddar wedi agor cyfres o stafelloedd rhithwir gwerth £120,000 yn benodol ar gyfer myfyrwyr i ddatblygu eu prosiectau rhithwir eu hunain. Mae hyd yn oed wedi sefydlu tîm Esports o dan arweiniad o fewn y coleg.

Ar gyfer mwy o wybodaeth ar gyrsiau'r coleg mewn Datblygu Gemau, neu gyrsiau Cyfrifiadurol yn gyffredinol yn dechrau ym Medi, galwch dim Gwasanaethau Dysgwyr y coleg ar 01492 542 338.

Ebost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk