Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwobrau Cymraeg Gwaith i staff Grŵp Llandrillo Menai

Mae dau aelod o staff Grŵp Llandrillo sydd wedi rhoi eu sgiliau Cymraeg ar waith yn y gweithle, wedi derbyn cydnabyddiaeth yn seremoni flynyddol Gwobrau Cymraeg Gwaith 2021.

Anfonwyd enwebiadau o bob cwr o Gymru at Swyddogion Cymraeg Gwaith oedd yn aelodau o'r panel dewis, ac ar ôl trafodaeth hir dewiswyd enillwyr ar gyfer y chwe chategori. Mae Cymraeg Gwaith yn rhaglen a ddyluniwyd i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Cyllidir y cynllun gan Lywodraeth Cymru ac fe'i datblygwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

Enillydd y categori 'Dysgwr Cymraeg Gwaith sydd yn gwneud y defnydd gorau o'r Gymraeg at bwrpas gwaith (Lefel Mynediad)' oedd Matt Nash, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ariannol Grŵp Llandrillo-Menai. Daeth Thomas du Prez, darlithydd yn yr adran Chwaraeon yn ail yn y categori 'Dysgwr Cymraeg Gwaith sydd yn gwneud y cynnydd gorau (Lefel Mynediad)'. Mae Grŵp Llandrillo Menai’n cynnwys Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.

Mae Matt Nash yn awyddus iawn i ddefnyddio'r Gymraeg yn ei fywyd bob dydd, yn ogystal ag yn y gwaith. Gwnaeth cynnydd arbennig o dda ac erbyn hyn gall gynnal sgwrs heriol a sylweddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Chwaraeodd ran bwysig mewn noson gymdeithasol - 'Hwyl yr Wŷl - a chanu carol heriol yn y Gymraeg; ac roedd nifer o'r farn mai dyma oedd uchafbwynt y noson. Roedd y ffaith bod Matt mor barod i berfformio i gynulleidfa eang ar Zoom yn ysbrydoliaeth i'w gydweithwyr, mae'n llawn haeddu pob canmoliaeth am fachu ar bob cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn ei fywyd proffesiynol.

Dechreuodd Thomas du Prez ddysgu Cymraeg fis Medi 2020, fel dechreuwr pur. Mae Thomas sy'n hanu’n wreiddiol o Dde Affrica hefyd wedi manteisio'n llawn ar y cyfle i ddysgu Cymraeg, ac mae ei gynnydd a'i hyder i ddefnyddio'r Gymraeg wedi cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Dydy o byth yn colli Gwers Gymraeg, mae ganddo ddiddordeb iach mewn gramadeg ac mae'n ychwanegu at ei sgiliau drwy ddarllen.

Y pedwar categori arall oedd: 'Tiwtor Cymraeg Gwaith y Flwyddyn', 'Cyflogwr Iaith Gwaith y Flwyddyn', 'Dysgwr Iaith Gwaith sydd wedi gwneud y cynnydd gorau (Lefel Sylfaen +)', a 'Dysgwr Cymraeg Gwaith sydd wedi gwneud y defnydd gorau o'r Gymraeg (Lefelau Sylfaen +)'.

Mae Cymraeg Gwaith yn cynnig cyfleoedd i ddysgu, i loywi, ac i ddefnyddio sgiliau Cymraeg yn y gwaith, ynghyd â chymorth i gyflogwyr yn ogystal â gweithwyr.